Arloesi ym maes Gweithgynhyrchu Digwyddiad rhannu gwybodaeth am yr heriau ynghylch rheoli arloesed

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd prosiect SIM Cymru, Prifysgol Abertawe, yn cynnal digwyddiad yn rhad ac am ddim i gwmnïau ac unigolion sy'n dymuno dysgu mwy am weithredu a rheoli arloesed ddydd Iau 30 Mehefin ar Gampws y Bae y Brifysgol.

Cynhelir y digwyddiad hanner diwrnod o 1pm tan 4pm, yn Narlithfa CBE 010, Ysgol Reolaeth, a bydd yn amlinellu llwyddiant rhaglen SIM Cymru o ran datblygu capasiti arloesedd busnesau gweithgynhyrchu.

Siaradwyr gyweirnod y digwyddiad fydd Scott Waddington, Prif Weithredwr SA Brains a Chomisiynydd Cymru i Gomisiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau y DU a Nick Rich, Athro Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.

Bydd y digwyddiad hefyd yn trafod yr heriau ynghylch datblygu a chynnal rheoli arloesedd a bydd yn rhoi cyfle i fynychwyr ofyn cwestiynau am unrhyw agwedd o reoli arloesedd.

Lluniodd a darparodd prosiect SIM Cymru, a ariennir gan Gomisiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau y DU, raglen beilot arbrofol a seiliwyd ar 'reoli arloesedd', ar gyfer grŵp o 10 o weithgynhyrchwyr yng Nghymru.

Darparwyd y rhaglen gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth a Fforwm y Cyflogwyr Peirianneg ac Industry Wales.

https://www.eventbrite.co.uk/e/innovation-in-manufacturing-tickets-26034093675?aff=ebrowse.