Ymchwil yn awgrymu y gallai anawsterau wrth fwydo ar y fron gynyddu risg iselder

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod mamau a roddodd y gorau i fwydo ar y fron gan eu bod wedi profi anawsterau’n fwy tebygol o brofi iselder ôl-enedigol na’r mamau hynny a roddodd y gorau i fwydo ar y fron am resymau eraill megis teimlo cywilydd neu ddewisiadau ffordd o fyw.

Arweiniwyd yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn y Cyfnodolyn Nyrsio Uwch gan yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol ac archwiliodd brofiadau mamau â baban rhwng 0 - 6 mis oed a oedd wedi dechrau bwydo ar y fron adeg geni’r baban ond wedi rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn ystod yr wythnosau cynnar. Gofynnwyd iddynt ddewis o blith rhestr o’r prif resymau dros stopio, fel a ganlyn:-

  • anhawster 
  • poen 
  • rhesymau meddygol
  • cywilydd
  • delwedd o’r corff
  • dewis mewn perthynas â ffordd o fyw
  • ddim yn hoffi bwydo o flaen pobl eraill

Baby with bottle

Er i’r astudiaeth ganfod bod cyfnod byrrach o fwydo ar y fron yn cynyddu’r risg o iselder ôl-enedigol, yr hyn a oedd yn rhagfynegi sgôr uwch o ran iselder ôl-enedigol oedd y rheswm dros roi’r gorau i fwydo ar y fron. Yn benodol, roedd mamau a ddywedodd eu bod wedi stopio bwydo ar y fron oherwydd poen neu anhawster yn fwy tebygol o fod â sgôr iselder uwch tra nad oedd stopio am resymau eraill yn cynyddu’r risg o iselder o gwbl.  Hefyd, roedd y risg o iselder ôl-enedigol yn uwch pan oedd y fam wedi profi mwy o boen neu anhawster.

Meddai Dr Amy Brown, Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr y Rhaglen MSc Iechyd Cyhoeddus Plant  a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae’r canfyddiadau’n ddiddorol iawn. Roeddem yn gwybod yn barod fod yna gyswllt rhwng cyfnod byrrach o fwydo ar y fron a risg uwch o iselder ôl-enedigol, ond nid oeddem wedi archwilio profiadau’r fam o roi’r gorau i fwydo ar y fron. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gallai profi anawsterau wrth fwydo ar y fron ragfynegi risg o iselder, yn hytrach na’r broses ei hun o roi’r gorau i fwydo ar y fron. Gallai hyn fod o ganlyniad i’r posibilrwydd bod y mamau’n teimlo eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i fwydo ar y fron cyn yr oeddent yn barod, tra ei bod yn bosibl bod mamau sy’n rhoi’r gorau iddo am resymau eraill yn teimlo bod budd personol dros wneud hynny.  Mae hyn wir yn tynnu sylw at yr angen i ddarparu gofal o ansawdd uchel i famau sy’n bwydo ar y fron, yn hytrach na hyrwyddo’r neges mai’r fron sydd orau yn unig heb gefnogi hyn gyda’r cymorth sydd ei angen.”

Meddai’r Athro Paul Bennett, Athro Seicoleg Abnormal a Chlinigol: “Ar y cam hwn, y cyfan yr ydym yn gwybod yw bod perthynas rhwng anawsterau bwydo ar y fron ac iselder ôl-enedigol.  Nid oes modd i ni wybod a yw anawsterau bwydo ar y fron yn cynyddu’r risg o iselder ôl-enedigol, nac ychwaith a yw mamau a chanddynt iselder ôl-enedigol yn ei chael hi’n anoddach i fwydo ar y fron. Yn y naill achos, mae’n canfyddiadau’n amlygu’r angen i gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i famau newydd i’w galluogi i fwydo ar y fron gan y gallai hyn ddiogelu iechyd y plentyn a’r fam yn ogystal â lles y fam.”

Ychwanegodd Dr Jaynie Rance, Athro Cyswllt mewn Iechyd Cyhoeddus: “Mae’r Adran Iechyd yn annog mamau i fwydo ar y fron i leihau’r risg o salwch i’r fam a’r baban. Fodd bynnag mae llawer o famau yn dal i ddweud eu bod yn profi anawsterau wrth fwydo ar y fron ac nad ydynt yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Ar adeg pan fo llawer o doriadau’n cael eu gwneud ar draws gwasanaethau, rydym am bwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn bwydo ar y fron gan y gallai galluogi mwy o famau i fwydo ar y fron heb anhawster wella cyfraddau bwydo ar y fron a lleihau cyfraddau iselder ôl-enedigol, sy’n golygu arbed arian i’r GIG yn yr hirdymor”.

Mae’r ymchwil bellach wedi’i chyhoeddi yn y Cyfnodolyn Nyrsio Uwch.