Y Ganolfan Eifftaidd: Noson yn yr Amgueddfa

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ydych chi erioed wedi gofyn i'ch hun a yw'n wir bod arddangosiadau yn yr amgueddfa'n dod yn fyw gyda'r nos? Dyma'ch cyfle i ddarganfod y gwirionedd!

Egypt Centre logoDigwyddiad am ddim i'r Teulu Cyfan

Dyddiad: Nos Galan Gaeaf, nos Sadwrn, 31 Hydref, 2015

Amser: 4.00pm – 7.00pm

Lleoliad: Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe


Cewch gyfle i gwrdd â'r brenin ifanc, Tutankhamun a fydd yn dangos technegau mymio i chi. Cewch herio tywysogesau Amarna i gêm o Senet a gofyn i'r adeiladwr beddau, Paneb, ddangos i chi sut i ysgrifennu'ch enw mewn hieroglyffau.

Dewch i gwrdd â'r cymeriadau, darganfod eu cyfrinachau a chwblhau'ch llyfr gweithgareddau am gyfle i ennill tocynnau sinema VUE am ddim. 

Bydd gennym lawer o weithgareddau celf a chrefft i chi roi cynnig arnynt hefyd!

Dewch mewn gwisg ffansi!

Digwyddiad rhad ac am ddim ond mae cadw lle'n hanfodol gan fod nifer cyfyngedig o leoedd. I gadw lle, ffoniwch neu e-bostiwch, Ffôn: 01792 602660, neu e-bost: egyptcentre@abertawe.ac.uk.