Y Coleg Meddygaeth yn Penodi Dr Annmarie Nelson yn Athro Anrhydeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Annmarie Nelson, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Ofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Cadair Anrhydeddus gan Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

Fel rhan o'r rôl anrhydeddus, sy'n para tan 2017, bydd Dr Nelson yn gweithio gyda'r Athro Frances Rapport a'r Uned Ymchwil Ansoddol i Gefnogi Treialon (QUEST) yn y Coleg Meddygaeth yn Abertawe.

Mae'r Uned yn cysylltu dulliau ansoddol â threialon clinigol ac, ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â threialon canser, ac iechyd anadlol a gastroenterolegol.

Fel rhan o'i rôl newydd, bu Dr Nelson yn ymweld â Phrifysgol Abertawe yn gynharach ym mis Mawrth i gyflwyno sgwrs i staff, myfyrwyr a'i chyd-ymchwilwyr ar 'Ymgorffori ymchwil ansoddol mewn treialon clinigol: Pam, sut a beth rydym yn ei ddysgu.'

Yng Nghanolfan Ymchwil i Ofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ymchwil Dr Nelson yn canolbwyntio ar brofiad cleifion a gofalwyr, yn enwedig eu profiad o gymryd rhan mewn treialon clinigol.

Meddai Dr Annmarie Nelson: "Roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y swydd bwysig hon yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Athro Frances Rapport a'r gymuned ymchwil yn Abertawe dros y misoedd nesaf."

Meddai'r Athro Frances Rapport: "Mae'n bleser mawr groesawu Annmarie i dîm QUEST ym Mhrifysgol Abertawe. Gydag Annmarie yn gweithio gyda ni, rydym yn bwriadu gwneud rhagor o gydweithredu mewn treialon, ar draws de-ddwyrain, a chanol gorllewin Cymru.

"Bydd ei chyfraniad hi’n sicrhau hefyd y gallwn ni barhau i gynnal treialon o safon ardderchog a mynd o nerth i nerth o ran ymchwil ar y cyd."

Ychwanegodd Dr Sabine Best, Pennaeth Ymchwil yng Nghanolfan Marie Curie: "Rwyf wrth fy modd bod cyfraniad unigryw Annmarie at ymchwil i brofiad cleifion a gofalwyr wedi cael ei gydnabod fel hyn, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithwyr yng Nghanolfan Marie Curie yn ymuno â mi wrth longyfarch Annmarie am y cyflawniad sylweddol hwn."