Y bardd a’r darlledwr arobryn Owen Sheers yn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Athro Creadigrwydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y dramodydd, nofelydd a bardd arobryn, Owen Sheers, yn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn Athro Creadigrwydd o 1 Mai 2015. Wedi’i leoli yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH), bydd Owen yn chwarae rôl allweddol wrth iddo feithrin creadigrwydd ymhlith staff, myfyrwyr a’r gymuned leol, yn ogystal â pharau â’i broffil rhyngwladol fel un o awduron gorau Cymru.

Ganwyd Owen yn Ffiji ym 1974, ac fe’i magwyd yn Y Fenni. Mynychodd Ysgol Uwchradd King Henry VIII cyn symud i’r Coleg Newydd, Rhydychen i astudio Saesneg, a graddio gydag MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol East Anglia.

Ymuna Owen â'r tîm yn Abertawe gan feddu ar bortffolio trawiadol o gyhoeddiadau barddoniaeth a rhyddiaith, yn ogystal â nifer o gyflawniadau theatrig a darlledu arwyddocaol. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth, The Blue Book a enillodd Wobr Somerset Maugham, ac mae ei nofel gyntaf Resistancewedi cael ei chyfieithu i ddeg o ieithoedd a'i haddasu ar gyfer y sgrîn fawr yn 2011.

Owen SheersMae gwaith ysgrifenedig theatrig Owen yn cynnwys ei libreto ar gyfer oratorio Rachel Portman, The Water Diviners Tale, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn y Royal Albert Hall ar gyfer Proms y BBC yn 2007. Yn ystod Pasg 2011 ysgrifennodd Owen sgript ac addasiad The Passion, cynhyrchiad safle penodol National Theatre Wales dros 72 awr ym Mhort Talbot, wedi’i chyfarwyddo gan, ac yn serennu Michael Sheen. Disgrifiodd The Observer  y cynhyrchiad fel ‘digwyddiad theatrig y ddegawd’. Ym mis Mehefin 2014, cynhyrchodd National Theatre Wales ei ddrama Rhyfel Byd Cyntaf, Mametz, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas y llynedd.

Ennillodd Pink Mist, drama fydryddol a gomisiynwyd gan BBC Radio 4, a’i chyhoeddi gan Faber yn 2013, Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli a Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Tra pherfformiwyd drama Owen, The Two Worlds of Charlie F. ledled y DU a Chanada, enillodd Wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol yng Ngŵyl Caeredin.

"Mae'r penodiad Athro Creadigrwydd yn un cyffrous" meddai Owen. "Mae'n cynnig cyfle i ymchwilio i'r drysorfa o syniadau a straeon sydd i'w cael mewn Prifysgol, gyda'r nod o greu prosiectau celfyddydol sy'n cael eu hysgogi gan ymchwil ac egni academyddion a myfyrwyr Abertawe. Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i mi yw'r cyfleoedd ymgysylltu a chydweithredu â'r gymuned leol y mae'r swydd yn eu cynnig ac, wrth wneud hynny, helpu i blethu edefyn diwylliannol cryf drwy fywyd beunyddiol y Brifysgol. Gobeithio hefyd y bydd y prosiectau hyn yn cynnig amgylchedd celfyddydol bywiog i fyfyrwyr Abertawe, i’r rhai sy'n astudio'r gwyddorau neu'r celfyddydau, fel y gallant feithrin eu sgiliau ymhellach, y tu hwnt i'r ddarlithfa neu'r llyfrgell.”

Meddai’r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Rydym yn hynod o falch bod Owen yn ymuno â ni yn Athro Creadigrwydd. Bydd y rôl gyffrous ac arloesol hwn yn helpu i roi'r Celfyddydau yng nghanol bywyd y Brifysgol a chodi’n proffil ledled y byd.”

Mae prosiectau Owen ar gyfer eleni yn cynnwys libreto i oratorio newyddMark Bowden, Creation, yn seiliedig ar daith ymchwil i CERN. Fe’i perfformir am y tro cyntaf ym mis Ebrill, a chyhoeddir ei nofel nesaf, I Saw A Man, gan Faber fis Mehefin.