Taith Hen Geir i goffáu Brwydr Coedig Mametz

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’n bleser gan y Brifysgol gynnig cymorth i drefnwyr Taith Hen Geir Mametz, digwyddiad i goffáu canmlwyddiant Brwydr Coedwig Mametz, sef brwydr yn ardal y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Gorffennaf 1916).

Mametz Woods Classic Car Run - soldiers outside The George imageMae nifer o berchnogion hen geir eisoes wedi sicrhau eu lle ar y daith ond mae dal ychydig o lefydd ar ôl. 

Mae croeso arbennig i aelodau staff y Brifysgol, neu awdurdodau a chyrff lleol, gysylltu â threfnydd y daith, sef Huw Morris, Cyfarwyddwr Partneriaethau Academaidd, Ffon 01792 295344.

Cofiwch taw dim on lle ar gyfer 23 car sydd ar y daith a taw dim ond 8 lle sydd ar gael bellach, felly “y cyntaf i’r felin...”

Bydd y daith yn gadael Abertawe, o’r “George” yn y Mwmbwls am 10 y bore, 5ed Orffennaf 2016. 

Byddwn yn arddangos y ceir ar y daith ee yn Honfleur, a byddwn yn mynychu digwyddiadau ar faes y gâd ar y 7fed.  Bu farw neu anafwyd miloedd o filwyr yn ystod y frwydr, y nifer helaeth o Gatrawd Cymreig (Abertawe). 

Mae’n werth bwrw golwg dros y wefan i weld llun o’r milwyr o flaen y “George” cyn iddynt adael am Ffrainc ac i ddarllen darn o gerdd Tom Parton, milwr a fu’n ddigon ffodus i oresgyn y frwydr.

Cofiwch ymateb yn gloi!