Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth “Trafodaethau ar Amrywiaeth Crefyddol"

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y nesaf yng nghyfres Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth Prifysgol Abertawe yn cyflwyno Yr Athro Martin Stringer (Dirprwy Is-Ganghellorym Mhrifysgol Abertawe; cyn Athro mewn Astudiaethau Litwrgaidd a Chynulleidfaol yn yr Adran Ddiwinyddiaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Birmingham)

‌Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd, sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.‌

227 x 340 

Teitl y Ddarlith: “Trafodaethau ar Amrywiaeth Crefyddol: Archwilio gwerth ‘gwahaniaeth’ ac ‘amrywiaeth’ ynghylch dadleuon am grefydd yn y Deyrnas Unedig”

Siaradwr: Yr Athro Martin Stringer (Dirprwy Is-Ganghellorym Mhrifysgol Abertawe; cyn Athro mewn Astudiaethau Litwrgaidd a Chynulleidfaol yn yr Adran Ddiwinyddiaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Birmingham)

Dyddiad: Nos Fawrth, 24 Tachwedd 2015

Amser: 7.00pm

Lleoliad: Darlithfa James Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Cynhelir y darlithoedd hyn trwy gyfrwng Saesneg