Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw: dadlennu canfyddiadau’r prosiect

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw bellach yn hanfodol yn ôl canfyddiadau’r Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw.

Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant RhywMae'r astudiaeth fwyaf ar agweddau myfyrwyr at gyfranogiad myfyrwyr yn y diwydiant rhyw wedi canfod: bod bron 5% o fyfyrwyr y DU a ymatebodd i’r arolwg wedi gweithio yn y diwydiant rhyw, mae myfyrwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o fod yn ymglymedig na myfyrwyr benywaidd, mae bron i 22% o fyfyrwyr wedi ystyried gweithio o fewn y diwydiant rhyw, ac mae angen hyfforddiant ar Brifysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu’r gefnogaeth angenrheidiol sydd ei angen.

‌Cafodd yr ymchwil academaidd gyda mwy na 6,750 o fyfyrwyr ledled y DU ei wneud gan Dr Tracey Sagar a Debbie Jones o’r Ganolfan ar gyfer Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac ariannwyd yr ymchwil gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae'r ymchwil yn dangos bod myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o alwedigaethau yn y diwydiant rhyw, gan gynnwys: gwaith rhyw uniongyrchol lle mae cyswllt uniongyrchol gyda chleient fel puteindra, hebrwng a gwerthu rhyw o sefydliadau oddi ar y stryd, ac yn annibynnol drwy'r rhyngrwyd. Mae hefyd yn cynnwys gwaith rhyw anuniongyrchol nad yw'n cynnwys cyswllt uniongyrchol gyda chleient e.e. sgwrsio am ryw dros y ffôn, gwaith gwe gamera, dawnsio erotig, stripio a modelu bronnoeth. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn galwedigaethau ategol a sefydliadol megis gyrwyr a rheolwyr hebrwng.

Cymhelliannau

Darganfu’r  ymchwilwyr bod rhai myfyrwyr yn cael eu cymell gan ffactorau economaidd:

  • Roedd 64% yn cael eu cymell i ennill arian er mwyn ariannu ffordd o fyw.
  • Roedd bron 57% eisiau cyllido addysg uwch.
  • Roedd 56% am dalu costau byw sylfaenol.
  • Roedd 45% eisiau osgoi dyled.
  • Roedd 39% yn cael eu cymell i leihau dyled ar ddiwedd y cwrs.

Dangosodd myfyrwyr cymhellion cynhenid eraill:

  • Credodd 59% y buasent yn mwynhau’r gwaith.
  • Roedd 54% yn chwilfrydig am weithio o fewn y diwydiant rhyw.
  • Roedd 45% eisiau gweithio o fewn y diwydiant rhyw.
  • Roedd 44% yn cael eu cymell gan bleser rhywiol.

Darllenwch Adroddiad Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw

Dechrau a gadael gwaith rhyw

Canolbwyntiodd yr ymchwil ar faint o amser dreuliodd myfyrwyr yn gweithio o fewn y diwydiant rhyw, a pha mor anodd roeddent yn eu cael hi i adael y diwydiant. Dywedodd dros hanner eu bod wedi gweithio yn y diwydiant am lai na chwe mis gyda dros hanner eto yn adrodd eu bod ond yn gweithio am ychydig oriau'r wythnos (llai na phum awr). Dangosodd yr arolwg bod gadael y diwydiant rhyw yn galed neu'n anodd iawn i chwarter neu lai o fyfyrwyr (25% i’r rhai sy'n ymwneud â gwaith rhyw uniongyrchol a 7% ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gwaith rhyw anuniongyrchol).

Diogelwch

Dywedodd oddeutu 76% o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y diwydiant rhyw eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu gwaith 'bob amser' neu 'yn aml iawn', ond nid yw 1 o bob 4 yn teimlo'n ddiogel.

Nodwyd ofn trais ddwywaith mor aml ymhlith y rhai sy'n ymwneud â gwaith rhyw uniongyrchol o'u cymharu â'r rhai sy'n ymwneud â gwaith rhyw anuniongyrchol (49% a 25% yn y drefn honno).

Agweddau cadarnhaol a negyddol

Cafodd incwm da ei nodi gan 83% fel agwedd gadarnhaol o waith rhyw, nododd 77% oriau hyblyg, a nododd 46% pleser rhywiol. Pan ofynnodd yr astudiaeth i fyfyrwyr am ba agweddau negyddol sydd o weithio fewn y diwydiant, nododd 51% bod cadw’r gwaith yn gyfrinach yn agwedd negyddol o’r gwaith, nododd 50% nad oedd modd rhagweld faint o arian y buasent yn ei gael, 50% cwsmeriaid annymunol, 36% yn ofni trais, a nododd 35% beirniadaeth negyddol gan deulu a ffrindiau. Ofnau’r myfyrwyr o gael eu stigmateiddio, ac felly’n cadw eu gwaith yn gyfrinach yw'r agwedd fwyaf negyddol pwysicaf o ymgymryd â gwaith rhyw i’r myfyrwyr. Nid yw pob niwed a achosir gan waith rhyw yn gysylltiedig â'r gwaith ei hun, ond hefyd drwy ymatebion cymdeithasol iddo.

Esboniodd myfyrwraig a gymrodd rhan yn yr astudiaeth: “Mae fy mywyd i gyd bellach yn un gyfrinach fawr…rwy’n gorfod bod yn ofalus o beth rwy’n ddweud, rwy’n gorfod bod yn ofalus o ble rwy’n mynd. Mae dynion wedi fy nghydnabod i, ac wedi dweud “helo Sharon” wrth iddyn nhw gerdded heibio…gofynnodd un o fy ffrindiau gorau “pam fod pobl yn dy alw di’n Sharon drwy’r amser?” (…) Pan fod hyn yn digwydd dro ar ôl tro, mae pobl yn dechrau meddwl “beth mae’r ferch yma’n ei wneud?”

Cymorth

Mae Dr Tracey Sagar a Debbie Jones, a arweiniodd yr astudiaeth yn pwysleisio bod yr ymchwil yn dangos nad yw ymgysylltu yn y diwydiant rhyw efallai yn broblem i'r rhan fwyaf o weithwyr yn y diwydiant rhyw, ond mae rhai yn cael profiadau negyddol a all effeithio ar eu hiechyd, diogelwch a’u lles cyffredinol.

Maent yn pwysleisio bod hyn yn bwysig iawn o gofio bod y data hefyd yn dangos bod 15% o'r myfyrwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi defnyddio gwasanaethau cynghori myfyrwyr,  ond cododd y ffigwr hwnnw i 21% ar gyfer myfyrwyr a oedd yn ymwneud â gwaith rhyw. At hynny, cysylltodd 51% o'r rhai a oedd yn ymwneud â gwaith rhyw uniongyrchol gyda gweithiwr proffesiynol mewn perthynas â'u gwaith, a mynegodd 41% angen am gefnogaeth.

Meddai Dr Sagar: “Erbyn hyn mae gennym dystiolaeth gadarn bod myfyrwyr yn cymryd rhan yn y diwydiant rhyw ar draws y DU. Mae'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn yn cadw eu galwedigaethau yn gyfrinachol, a hynny oherwydd y stigma cymdeithasol a’r ofn o gael eu beirniadu gan deulu a ffrindiau. Ac, mae'n rhaid i ni gadw mewn cof nad yw pob myfyriwr sy’n cymryd rhan yn y diwydiant yn ddiogel neu'n teimlo'n ddiogel. Mae'n hanfodol nawr bod Prifysgolion yn arfogi eu hunain gyda’r wybodaeth i ddeall materion gwaith rhyw myfyrwyr yn well a bod gwasanaethau’r Brifysgol yn gallu cefnogi myfyrwyr lle bod angen”.

Ychwanegodd Mrs Jones: “Rydym yn gwybod drwy ein gwaith ymchwil fod rhai myfyrwyr yn datgelu i staff y Brifysgol, ond rydym hefyd yn gwybod bod staff a gwasanaethau cefnogi yn teimlo'n ddihyder neu'n ansicr ynghylch eu gallu i gynnig y cymorth cywir. Dyma pam taw cam nesaf y prosiect yw datblygu a gweithredu pecynnau hyfforddi ar gyfer staff a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr y Brifysgol. "

 Y Gwirionedd

Mae pwysigrwydd darparu cymorth cywir ar gyfer myfyrwyr  o fewn y diwydiant rhyw yn cael ei bwysleisio gan Dr Sagar. Meddai:  “Nid annog myfyrwyr i weithio yn y diwydiant rhyw yw nod yr ymchwil hwn, ond i gefnogi myfyrwyr sydd yn ymwneud â gwaith rhyw. Ac mae hyn yn realiti, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwaith rhyw - mae hyn yn ffaith. Ffaith arall yw bod angen cyngor, cefnogaeth a chymorth weithiau i’w helpu i gamu i ffwrdd wrth y diwydiant. Ar hyn o bryd myfyrwyr yn teimlo ofn o gael eu beirniadu, ac felly maent yn amharod iawn i ddatgelu eu galwedigaethau i staff a gwasanaethau mewn Prifysgolion a allai fod o gymorth iddynt.

“Mae stereoteipio hefyd yn broblem. Un o ganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yr ymchwil yw bod mwy o ddynion yn cymryd rhan yn y diwydiant rhyw nag y tybiwyd yn gyffredinol. O'r dynion a ymatebodd i'r arolwg, dywedodd 5% eu bod yn cymryd rhan yn mewn gwaith rhyw, tra dywedodd bron 3.5% o'r merched a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn ymwneud â’r diwydiant rhyw.

“Tybir yn eang - ond yn anghywir - bod gwaith rhyw yn alwedigaeth i ferched yn bennaf, ac mae hyn yn golygu y gall dynion disgyn drwy'r rhwyd cymorth i fyfyrwyr oherwydd nad ydynt yn cael eu cysylltu â galwedigaethau gwaith rhyw”.

Mrs Jones sy’n esbonio camau nesaf y prosiect. Meddai: “Dylai pob myfyriwr deimlo eu bod yn gallu gofyn am help os oes ei angen arnynt ac mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd yn cymryd rhan yn y diwydiant rhyw. Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am arwain a chefnogi’r prosiect ymchwil hwn a fydd yn awr yn mynd ymlaen i ddatblygu canllawiau a hyfforddiant  fydd ar gael i'r holl brifysgolion y DU”.

Mae’r Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Prifysgol De Cymru, Clinig Iechyd Rhywiol Integredig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.