Prifysgol Abertawe yn parhau i godi drwy dablau cynghrair prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i fyfyrwyr baratoi ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae canllaw The Times and The Sunday Times Good University Guide 2016 yn dangos bod Prifysgol Abertawe wedi dringo'r tabl unwaith eto, gan godi dau safle.

Mae Abertawe wedi dringo o safle 43 y llynedd i safle 41 eleni, ac mae wedi rhagori ym meysydd rhagoriaeth ymchwil, rhagolygon graddedigion, a boddhad myfyrwyr yn ôl y canllaw.

Singleton AbbeyMeddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, uwch ddirprwy-is-ganghellor: “Mae’n galondid mawr gweld ein bod wedi dringo'r tabl unwaith eto yng nghanllaw newydd The Times a The Sunday Times, sy'n un o'r canllawiau mwyaf cynhwysfawr ar addysg uwch. Mae 2015 yn flwyddyn bwysig i ni wrth i ni ddathlu nifer o lwyddiannau diweddar, ac wrth i ni agor ein campws newydd, Campws y Bae.

‌“Mae hyn, gyda'n safleoedd uchel cyson mewn arolygon annibynnol eraill a thablau cynghrair am foddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd, a rhagoriaeth ymchwil, yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau i godi i’r entrychion ac yn prysur ennill enw da am ragoriaeth yn rhyngwladol.”  

Rhywbeth i'w groesawu'n fawr yw llamu i fyny'r tablau, ac mae'n dod yn sgil nifer o lwyddiannau diweddar sy'n dangos ansawdd a dyfnder y profiad y bydd myfyrwyr Abertawe yn elwa arno, gan gynnwys:

  • Gwireddu uchelgais y Brifysgol o fod ymhlith 30 sefydliad ymchwil gorau'r DU - llwyddodd Abertawe i gyrraedd y 26ain safle (i fyny o 52) yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014).
  • Mae Abertawe bellach yn yr 8fed safle yn y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2015.
  • Derbyn 5 seren am ragoriaeth yn Asesiad Ansawdd 'QS Stars', sy'n gosod Abertawe ymhlith sefydliadau blaenllaw eraill y byd sydd wedi ennill 5 seren, megis Harvard a Rhydychen.
  • Dewiswyd Prifysgol Abertawe yn lleoliad Gŵyl Gwyddoniaeth Prydain y flwyddyn nesaf. Mae'r ŵyl fawreddog hon yn dathlu gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a bydd yn denu sylw mawr i'n hymchwil o'r radd flaenaf.

Mae'r Brifysgol wedi ennill Gwobr Arweinyddiaeth a Rheoli'r 'Times Higher' bob blwyddyn o 2012 i 2014, ac mae ar restr fer y 'Times Higher Education' ar gyfer gwobr Rhagoriaeth ac Arloesi yn y Celfyddydau yn 2015. Hefyd, cyrhaeddodd y Brifysgol y rhestr fer ar gyfer gwobr chwenychedig Prifysgol y Flwyddyn y 'Times Higher Education' yn 2014.

Ychwanegodd yr Athro Lappin-Scott: “Cam enfawr ymlaen yw agor ein campws gwyddoniaeth ac arloesi gwych newydd gwerth £450 miliwn yn y Bae. Eisoes, cydnabuwyd bod y campws newydd yn gystadleuydd cryf i ennill gwobr am y campws gorau, ac i fod ar flaen y gad o ran gwaith academaidd ac ymchwil gwyddonol. Bydd ei bartneriaethau â sefydliadau ymchwil rhyngwladol yn ymestyn dylanwad y sefydliad, ac yn cynnig cyfle i academyddion a myfyrwyr ymwneud ag ymchwil ar y cyd sydd ar flaen y gad.”