Prifysgol Abertawe'n lansio rhaglen newydd yn annog ffordd iach o fyw i blant lleol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae diabetes yn cyflym droi yn broblem fwyaf iechyd pobl ledled y byd, gyda mwy o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd yng Nghymru nag erioed o'r blaen.

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio prosiect newydd gyda'r nod o annog plant lleol i fwyta diet iach, byw bywyd actif a chadw pwysau iach wrth iddynt dyfu.

Sefydlwyd rhaglen ENRICH (Exercise and Nutrition Research in Child Health) gan Ganolfan Ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Cymhwysol (A-STEM) Prifysgol Abertawe.

Mae'r rhaglen yn rhan o astudiaeth gwerth €9 miliwn, PREVIEW. Mae'r astudiaeth, sydd ar waith mewn wyth prifysgol ledled y byd gyda 2,500 o bobl yn cymryd rhan, yn archwilio pwysigrwydd diet a gweithgarwch corfforol i atal Diabetes Math-2.

Mae Dr Masoumeh Minou a'r myfyriwr PhD, Nils Swindell, yn A-STEM wedi chwarae rhan bwysig wrth lansio rhaglen ENRICH ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Dr Minou, “Gyda help pediatregwyr, meddygon teulu ac ysgolion lleol, rydym wedi recriwtio plant a allai fod yn pryderu ynghylch eu risg o ddatblygu Diabetes Math-2 i gymryd rhan yn y rhaglen.

“Mae dau grŵp o blant wedi cymryd rhan hyd yma. Mae'r plant hyn yn cymryd rhan wrth baratoi bwyd a byrbrydau ac yn rhannu profiadau a syniadau wrth iddynt fwynhau gwobrau bwyta bwyd iach.”

“Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at annog mwy o blant i fabwysiadu patrymau bwyta iach ac ymarfer corff drwy'r rhaglen.”

Dyma rai sylwadau gan blant sy'n rhan o'r rhaglen:

“Drwy'r rhaglen rwyf wedi dysgu sut i fwyta'n iach, a ches i fy synnu gan faint o siwgr sydd mewn bwydydd pob dydd. (Bachgen, 12 oed)

"Pan oeddwn yn yr ysgol buaswn yn cael teisen bob amser chwarae, nawr rwy'n cael diod yn lle, sef dŵr fel arfer." (Merch, 12 oed)

"Y peth gorau am y rhaglen yw gwybod y gallaf fwyta'n iach a cholli pwysau." (Bachgen, 13 oed)

Meddai Nils Swindell, “Anogwn bawb rhwng 10 a 18 oed a allai fod yn pryderu ynghylch datblygu Diabetes Math-2 i gymryd rhan yn y rhaglen hon. Mae'r ffactorau risg yn cynnwys hanes o Ddiabetes Math-2 yn y teulu, pwyso mwy na'r pwysau iach a pheidio â gwneud digon o ymarfer corff.”

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â Nils Swindell ym Mhrifysgol Abertawe drwy e-bostio 835228@abertawe.ac.uk, ffonio 07444 324 147 neu drwy Facebook yn www.facebook.com/enrich.swansea