Nodiadur ‘coll’ Dylan Thomas yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Abertawe i nodi Diwrnod Dylan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd nodiadur coll Dylan Thomas, a darganfuwyd ar ôl iddo gael ei anghofio mewn drâr am ddegawdau, ei arddangos mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Abertawe ar 14 Mai, i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas cyntaf. Yn ôl wyres y bardd, Hannah Ellis, “Mae’r nodiadur yn cynnwys fersiynau grweiddiol o beth fyddai wedi bod yn rhai o’r cerddi gorau yn yr iaith Saesneg”.

Llwyddodd y Brifysgol i brynu'r llyfr am £85,000 mewn arwerthiant yn Sotheby's ar ôl bod mewn drâr mewn angof am ddegawdau cyn iddo ddod i law yn ddiweddar. Bydd y nodiadur yn cael ei gadw yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Disgrifiodd yr Athro John Goodby, arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas a golygydd rhifyn canmlwyddiant ei gerddi, y darganfyddiad fel "y Greal Sanctaidd i ysgolheigion Thomas", a'r mwyaf cyffrous er marwolaeth y bardd ym 1953.

Hannah Ellis with the 'lost' Dylan Thomas notebook‌Chwith: Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, gyda'r nodiadur 'coll'.

Meddai Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, sydd yn mynychu’r digwyddiad heddiw: “Beth sy’n fy nharo i  yw pa mor gyffredin mae’r nodiadur yn edrych, er ei fod yn cynnwys fersiynau cynnar o beth allai fod wedi bod yn rhai o’r cerddi gorau yn yr iaith Saesneg.

Rwyf wrth fy modd yn edrych ar ba mor daclus a fach mae ei lawysgrifen. Mae’n amlwg wrth edrych ar y nodiadur ei fod yn berffeithydd. Doedd dim byd yn iawn nes iddo groesi pethau allan cant o weithiau, neu ychwanegu gair newydd fan hyn a fan draw. Roedd rhaid iddo fod yn berffaith.

Roedd y cyfnod treuliodd fy nhadcu yma yn Abertawe yn ddylanwad mawr ar ei waith, gan gael ei ysbrydoli gan y môr a’r golygfeydd. Roeddwn i mor falch pan brynodd Prifysgol Abertawe’r nodiadur, gan fy mod i’n credu ei bod hi’n bwysig bod pobl yn cael y cyfle i’w weld, ond hefyd yn cael y cyfle i ddod i ddeall gwaith fy nhadcu yn well”.

Jeff Towns with part of his collection of Dylan Thomas writings and memorabilia.‌Chwith: Jeff Towns gyda'i gasgliad o eitemau cofiadwy Dylan Thomas yn yr arddangosfa.

Roedd y digwyddiad yn gyfle prin i weld yr arteffact godidog hwn. Yn ystod yr arddangosfa, roedd cyfle hefyd i bobl weld lluniau gwreiddiol o Dylan Thomas a sawl copi prin o’i waith, sydd ar fenthyg i’r brifysgol drwy garedigrwydd Jeff Towns, perchennog Dylan’s Bookstore.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Fel y brifysgol yn nhref enedigol y bardd a noddwr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mae'n briodol ein bod wedi gallu sicrhau bod y llyfr nodiadau hwn yn aros yng Nghymru a'i fod ar gael i ysgolheigion. Bydd y llyfr nodiadau yn ychwanegiad hyfryd i'n casgliad archif helaeth a phwysig."