Nid Myfyrwyr yn unig sy'n elwa o Wasanaethau Bysus y Brifysgol, ond y Gymuned gyfan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ym mis Medi, agorodd Campws y Bae Prifysgol Abertawe ei ddrysau i oddeutu 6000 o fyfyrwyr a bron 600 o staff.

Swansea Uni bus

O ganlyniad i waith partneriaeth â First Cymru, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr a staff yn teithio ar y bws.  Mae First Cymru wedi cofnodi tua 18,000 o deithiau ychwanegol ar ei rwydwaith bysus yn ystod yr wythnos gyntaf ac, ym marn y cwmni, mae'r cynnydd hwn yn ganlyniad uniongyrchol staff a myfyrwyr yn defnyddio'r gwasanaeth.

Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Justin Davies: 'Dyma'r gweithrediad logistaidd mwyaf i symud pobl rydym erioed wedi'i weld yn yr ardal' a dywedodd fod y bartneriaeth â'r Brifysgol yn llwyddiant ysgubol.

Mae 5 bws newydd sbon wedi'u hychwanegu at y rhwydwaith, sydd wedi helpu i ymdopi â'r niferoedd mawr sy'n defnyddio'r gwasanaeth.  Yn ogystal â hyn, mae aelodau staff First Cymru, yr Awdurdod Lleol a'r Brifysgol wedi bod wrth law i sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod pa wasanaethau sy'n mynd i ba gampws.

Bu'n uchelgais erioed gan y Brifysgol i'r gwasanaethau weithredu'n fasnachol gan ei bod yn awyddus iawn i'r bysus newydd fod o fudd i'r gymuned gyfan.  Mae gwasanaethau ychwanegol 4 ac 8 o fudd i bobl sy'n teithio i apwyntiadau ysbyty ac mae gwasanaeth rhif 10 yn cynnig y fantais o gysylltiad uniongyrchol â'r orsaf drenau i bobl sy'n teithio i mewn o Sgeti.

Buddsoddwyd £1.64 miliwn yng ngwasanaethau newydd rhif 8 a 10, a chyflogir 29 o yrwyr - gan gyfrannu mwy na £700,000 y flwyddyn i'r economi leol mewn cyflogau. Defnyddir cwmni lleol o Abertawe i lanhau'r cerbydau; mae'r holl ddyluniadau finyl ar y bysus yn cael eu darparu gan fusnes o Abertawe. Mae'r bysus yn cael eu hadeiladu gan ADL yn yr Alban.

O 1 Tachwedd, bydd gwasanaeth rhif 10 yn darparu cyswllt uniongyrchol rhwng Uplands/Sgeti ac Ysbyty Singleton am y tro cyntaf. Bydd hyn yn helpu'r gymuned leol i gyrchu cyfleusterau iechyd lleol.

Swansea Uni bendy bus

Mae Gwasanaeth 8 yn darparu'r cysylltiad cyntaf erioed ar draws y ddinas, o'r gorllewin i'r dwyrain, gan roi mynediad uniongyrchol i Gampws y Bae o orllewin Abertawe. Mae hefyd yn hwyluso teithio i SA1 a'r swyddi sydd ar gael yn yr ardal honno. Mae'r FTR (y bws plygu) wedi dychwelyd hefyd fel gwasanaeth 8X. Bydd hwn yn darparu gwasanaeth uniongyrchol unwaith yr awr rhwng y ddau gampws, gydag amser teithio o 22 munud.

 

Yn ogystal â gwasanaethu Campws Singleton a Champws y Bae, bydd gwasanaethau 8 a 10 yn hwyluso teithio i Ysbyty Singleton, sy'n adnabyddus am broblemau parcio.

Mae Campws Singleton wedi dod yn gyfnewidfa ddefnyddiol i unrhyw deithwyr sydd am deithio o gwmpas Abertawe ar y bws. Mae ganddo gysylltiadau uniongyrchol ag Ysbyty Treforys, Sgeti, y Mwmbwls, Pennard, y Bae, Canol y Ddinas, Stadiwm Liberty, yr Orsaf Drenau a nifer o leoliadau eraill yn y ddinas.

Mae Prifysgol Abertawe, drwy Grŵp Cynllunio Teithio'r Brifysgol, yn parhau i weithio gyda'i phartneriaid, First Cymru, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Undeb y Myfyrwyr ac eraill, i ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy i fyfyrwyr a staff.

Llun 1: Aelodau Grŵp Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe  gyda Bws y Brifysgol.

O'r chwith i'r de: Cath Swain, Arweinydd Grŵp Trafnidiaeth, Dinas a Sir Abertawe; Siona Masters, Gweinyddwr, Adran Ystadau Prifysgol Abertawe; Robert Loosemore (Hyb Myfyrio), Prifysgol Abertawe; Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe; Mark Byrne, Gyrrwr First Cymru; Andy Stevens, Gyrrwr First Cymru; Margaret Cherrington, Arolygydd First Cymru; Lyn Harvey, Rheolwr Gweithrediadau First Cymru.

Llun 2: Bws FTR Prifysgol Abertawe