Hapus? Llyfr newydd yn datgelu problemau wrth fynd ar drywydd dedwyddwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

A ddylem fod yn hapus? Dyna’r cwestiwn a ofynnir gan Dr Ashley Frawley, sy’n academydd o Brifysgol Abertawe, yn ei llyfr nesaf sy’n edrych ar y problemau cysylltiedig wrth i gymdeithas fynd ar drywydd hapusrwydd.

Ashley FrawleyYn The Semiotics of Happiness (Bloomsbury) mae  Dr Frawley yn edrych ar y ffordd y mae diddordeb mewn hapusrwydd wedi tyfu a’r modd y mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y cyfryngau ac mewn llenyddiaeth boblogaidd ac ysgolheigaidd i’r fath raddau bod cysyniad lles yn cael ei ystyried yn broblem ddifrifol lle mae angen ymyrraeth gan ystod o rymoedd proffesiynol a gwleidyddol.

Yn y llyfr, mae Dr Frawley o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd  ym Mhrifysgol Abertawe’n dadansoddi adroddiadau o bapurau newydd yn y DU ynghylch hapusrwydd ac yn ystyried y ffordd i gefnogwyr ymroddedig fynd ati i honni bod ‘gwyddor hapusrwydd’ newydd wedi cael ei darganfod a dechrau ymgyrchu bod yr ‘wyddor’ newydd hon yn cael ei derbyn a’i bod yn cael dylanwad mwy.  Mae Dr Frawley yn olrhain dylanwad hapusrwydd ar agenda’r cyhoedd ac yn dadlau na fu hapusrwydd yn ddylanwadol oherwydd bod mwy o bobl mewn cymdeithas yn anhapus, nac ychwaith oherwydd bod galw am wybodaeth newydd yn ei gylch, ond yn hytrach gan fod y cefnogwyr dylanwadol ac ymroddedig hyn wedi mynd i’r afael â’r pwnc ar adeg ddiwylliannol pan oedd problemau a ddangoswyd mewn termau emosiynol yn arbennig o debygol o gael effaith.

Semiotics of HappinessMae’r llyfr yn archwilio sut y cafodd hapusrwydd ei roi ar ben blaen ymwybyddiaeth y cyhoedd a’i droi’n broblem gymdeithasol yr oedd angen sylw gwleidyddol arni, ac o ganlyniad daeth y mater yn rhan annatod o’r polisïau a’r arferion mewn nifer o sefydliadau.

Meddai Dr Frawley: ‘Mae fy nadansoddiad wedi datgelu mai problem hapusrwydd yw ei fod yn hyrwyddo disgwyliadau isel, ac er gwaethaf iaith radicalaidd a ddefnyddir i’w ddisgrifio, mae ganddo ragolwg ceidwadol  yn y pen draw.’