Graddedig Llwyddiannus yn mynd o Tsieina i Slofacia drwy Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r graddedig Min Zhu wedi gwireddu ei huchelgais hiroes o addysgu yn Ewrop gyda chymorth gan Wasanaethau Hyfforddi’r Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Min Zhu

Wedi iddi dderbyn teilyngdod ar gyfer ei gradd MA mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor, aeth Min i astudio tuag at gymhwyster Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu’r Iaith Saesneg i Oedolion gyda Gwasanaethau Hyfforddi’r Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl ennill ei gradd a’i chymhwyster Tystysgrif Caergrawnt, erbyn hyn mae Min wedi ennill swydd gydag ysgol ieithoedd yn Slofacia, i addysgu Saesneg a Mandarin.

Daw Min o ddwyrain Tsieina yn wreiddiol – dinas fach ger Shanghai. Mae’n hanu o deulu agos iawn ac mae ganddi chwaer hŷn.

 

Roedd Min yn arfer gweithio yn asiantaeth addysg breifat fwyaf Tsieina – grŵp Addysg a Thechnoleg Newydd y Dwyrain yn cynnwys addysgu IELTS, SSAT a SAT o fis Gorffennaf 2010 tan fis Mehefin 2013. Cychwynnodd Min ar y cwrs MA mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor ym Mhrifysgol Abertawe o fis Medi 2013 tan fis Medi 2014 gan ddilyn y cwrs Tystysgrif Caergrawnt wedi hynny. Graddiodd Min o Brifysgol Abertawe ym mis Hydref 2014 a derbyniodd ei thystysgrif gradd yn ystod seremoni mis Ionawr 2015. Bydd Min yn symud i Slofacia ym mis Mawrth i gychwyn ar ei swydd addysgu.

Meddai Min: “Argymhellodd fy ffrindiau Brifysgol Abertawe i mi. Rwy’n dwlu ar Abertawe, mae wir yn ddinas brydferth. Fy uchelgais hiroes oedd gweithio yn Ewrop fel athrawes, ac mae astudio gyda Gwasanaethau Hyfforddi’r Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwireddu hynny.”