Ffigyrau newydd yn dangos taw Prifysgol Abertawe yw’r gorau yng Nghymru am ragolygon graddedigion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bellach mae Prifysgol Abertawe ar y brig yng Nghymru o ran darparu cyfleoedd i’w graddedigion i fynd ymlaen i swyddi da neu astudiaeth bellach, yn ôl ffigurau annibynnol newydd sydd ar gael gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Yn ôl data a chasglwyd gan Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE), mae Prifysgol Abertawe bellach yn y 15fed safle yn y Deyrnas Gyfunol, ac ar y brig yng Nghymru am gynhyrchu graddedigion byd-eang sy’n gallu mynd i’r afael ag astudiaeth bellach ar lefel raddedig neu sicrhau swydd ar lefel broffesiynol o fewn chwe mis ar ôl graddio. 

Dengys y ffigyrau hyn fod Abertawe cael ei gosod ymysg sefydliadau gorau’r byd ar ôl neidio pum lle o’r 20fed safle i safle 15 yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r Brifysgol bellach yn cael ei rhestri ymhlith prifysgolion gorau’r Grŵp Russell.

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor: “Cyflawnwyd y canlyniadau hyn diolch i gefnogaeth cyflogadwyedd helaeth ac amrywiol a gynigir i fyfyrwyr Abertawe. Mae hyn oll yn eu harfogi â’r sgiliau, gwybodaeth a chyfleoedd i ddod yn raddedigion sy’n rhagori.

“Mae ein Hacademi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu cyngor, hyfforddiant, lleoliadau gwaith, profiad gwaith, cyfleoedd rhyngwladol a gwobrau cyflogadwyedd i’n myfyrwyr sydd yn gwella eu rhagolygon a'u paratoi ar gyfer y byd gwaith.

 “Mae’r cyflawniad diweddaraf hwn yn cadarnhau safle Abertawe fel Prifysgol uchelgeisiol sydd yn parhau i godi i’r entrychion. Rydym bellach o fewn 30 uchaf y Deyrnas Gyfunol am effaith ein hymchwil yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, a dyfarnwyd 5 Seren i ni gan QS Stars, system graddio ansawdd a gydnabyddir yn fyd-eang.

“Yn ogystal â'r addysgu rhagorol ac amgylchedd dysgu, mae ein lleoliad heb ei ail: mewn parc, gyferbyn â’r traeth, yng nghanol dinas fywiog. Bydd ein campws gwyddoniaeth ac arloesedd newydd, Campws y Bae yn agor ym mis Medi."