O ddechrau mis Mehefin, bydd Rachel Williams, Darlithydd Bydwreigiaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe, yn lansio dosbarthiadau cyn geni cyfrwng Cymraeg yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.
Dyma fydd y dosbarthiadau cyn geni cyfrwng Cymraeg swyddogol cyntaf yn Ne-Orllewin Cymru.
Arweinir y dosbarthiadau gan Rachel Williams, sydd yn meddu ar dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio fel bydwraig. Yn ogystal, bydd myfyrwyr bydwreigiaeth o Brifysgol Abertawe yn cynorthwyo yn y dosbarthiadau.
Cynhelir y dosbarthiadau yng Nghaerfyrddin yn yr Uned o dan Arweiniad y Bydwragedd, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, bob nos Lun o 6.30pm - 8pm, yn cychwyn ar 1 Mehefin; a chynhelir y dosbarthiadau yn Aberystwyth yng Nghanolfan Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth, bob nos Iau, o 6.30pm - 8pm, yn cychwyn ar 4 Mehefin.
Wedi’u hanelu at famau sydd dros 28 wythnos i mewn i’w beichiogrwydd, cynhelir y dosbarthiadau unwaith yr wythnos dros gyfnod o bedair wythnos. Bydd y dosbarthiadau yn trafod sawl pwnc gwahanol, gan gynnwys:
- iechyd yn ystod beichiogrwydd
- beth sy’n digwydd yn ystod esgor a genedigaeth
- ymdopi gydag esgor a gwybodaeth am wahanol fathau o ffyrdd i leddfu poen
- gwybodaeth am wahanol fathau o enedigaethau ac ymyriadau
- gofalu am eich baban, gan gynnwys bwydo a golchi
- eich iechyd ar ôl yr enedigaeth
Meddai Rachel Williams (chwith): “Trwy gynnal dosbarthiadau cyn-geni cyfrwng Cymraeg, rwy’n gobeithio creu awyrgylch hamddenol a chyfeillgar lle bydd menywod a’u partneriaid yn cael y cyfle i dderbyn gwybodaeth yn eu mamiaith - gan osgoi defnyddio terminoleg sy’n anodd ei ddeall.
“Bydd y dosbarthiadau’n rhyngweithiol, ac rwy’n gobeithio bydd pawb yn teimlo’n gyffyrddus i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y pedair wythnos, ac yn defnyddio’r profiad fel sylfaen i sefydlu cyfeillgarwch hirdymor gydag eraill sydd yn mynychu”.
Meddai Siân James, menyw feichiog o Benygroes, Sir Gâr: “Rwy'n credu bod y dosbarthiadau hyn yn gyfle gwych - nid yn unig i ddysgu mwy am feichiogrwydd a genedigaeth, ond i gael y cyfle i ofyn cwestiynau i weithwyr proffesiynol yn fy mamiaith. Bydd hi’n braf hefyd i gael y cyfle i gwrdd â mamau arall sy’n siarad Cymraeg, nid yn unig i deimlo’n gartrefol, ond hefyd i wneud ffrindiau â theuluoedd Cymraeg”.
I gofrestru’ch lle ar gyfer y dosbarthiadau, neu am fanylion pellach, cysylltwch â Rachel Williams r.a.williams@abertawe.ac.uk 01792 606223 / 07776300635
Cliciwch yma am fanylion pellach > Dosbarthiadau cyn geni
- Dydd Gwener 15 Mai 2015 12.47 GMT
- Dydd Gwener 15 Mai 2015 12.53 GMT
- Catrin Newman, Ffôn: 01792 513454