Darlith Gyhoeddus a Lansiad Llyfr yr Athro Daniel G. Williams

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar nos Iau, 30 Ebrill, yr Athro Daniel G. Williams o Brifysgol Abertawe fydd yn traddodi’r ddarlith ‘Un Genedl! Pa genedl? Cymathu Cymru, o Shakespeare i Miliband’, ac yn lansio’i gyfrol newydd Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (Gwasg Prifysgol Cymru).

Dyddiad: Nos Iau, 30 Ebrill

Amser: 6.30pm – derbyniad a lansiad y llyfr o 6pm

Lleoliad: Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP

‘Un Genedl! Pa genedl? Cymathu Cymru, o Shakespeare i Miliband’

Traddodir y ddarlith hon yn Gymraeg; darperir offer cyfieithu ar y pryd. 

Wales Unchained Beth yw seiliau Prydeindod? A yw Prydeindod yn dibynnu ar unffurfiaeth, neu a yw Prydeindod sifig amlddiwylliannol yn cynnig amddiffynfa rhag eithafiaeth cenedlaetholdeb ethnig? Ar drothwy Etholiad Cyffredinol gyda chwestiynau cyfansoddiadol yn ganolog iddo, bydd y ddarlith agoriadol hon yn archwilio’r modd y mae Prydeindod wedi’i greu a’i ail greu mewn llenyddiaeth. Beth yw’r berthynas rhwng Prydeindod a Chymreictod? Sut y mae’r berthynas honno wedi ei delweddu, ei hadrodd a’i dychmygu mewn dramâu, cerddi ac ysgrifau?  Gan gychwyn yn oes y Dadeni a gorffen yn ein cyfnod ni, bydd yr Athro Daniel G. Williams yn gofyn a oes unrhyw wersi i’r dyfodol i’w dysgu oddi wrth ddelweddau llenyddol o Brydeindod?

Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (Gwasg Prifysgol Cymru)

Disgrifiodd Huw Edwards y gyfrol fel un ‘ddisglair a dadlennol’ ac ynddi mae Daniel Williams yn archwilio’r ffyrdd y mae’r Cymry wedi diffinio eu hunain, a sut y maent wedi cael eu diffinio gan eraill. Beth yw goblygiadau cymdeithasol a diwylliannol y diffiniadau hyn? A yw hunaniaethau sy'n seiliedig ar ddosbarth, rhywedd ac iaith yn gydnaws â’i gilydd, neu a ydynt yn rhwym o esgor ar dyndra diwylliannol? A yw aml-ddiwylliannaeth yn fygythiad i ddiwylliannau lleiafrifol, neu a yw'n cynnig cyd-destun ar gyfer eu datblygiad? Mae’r gyfrol yn trafod hil yn ysgrifau Rhys Davies a D H Lawrence, yn olrhain dylanwad Dylan Thomas a’r sacsoffonydd Charlie Parker ar ddiwylliant America’r 50au, yn cymharu sosialaeth economaidd Aneurin Bevan gyda sosialaeth ddiwylliannol Paul Robeson, ac yn archwilio’r berthynas rhwng rhywedd ac iaith ym marddoniaeth Menna Elfyn a Gwyneth Lewis. Mae’n gyfrol gymharol sy’n symud yn ôl ac ymlaen ar draws yr Iwerydd, ac mi fydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd am ddarllen beirniadaeth flaengar ar wleidyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru.

Yr Athro Daniel G. Williams

Yr Athro Daniel G. Williams Mae Daniel G. Williams yn Athro’r Saesneg a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Aberatwe. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Dwyrain Anglia, Harvard a Chaergrawnt. Ef yw awdur Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2006) a Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012). Ef yw golygydd Slanderous Tongues: Essays on Welsh Poetry in English 1970-2005 (Seren, 2010), Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Cymry (Gomer, 2010), casgliad o ysgrifau Raymond Williams, Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), a chyd-olygydd (gyda Alyce von Rothkirch) Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004).  Mae’n olygydd cyffredinol ar y gyfres ‘Safbwyntiau’ (2012 - ) a chyd-olygydd (gyda Kirsti Bohata) cyfres CREW ‘Writing Wales in English’ (Gwasg Prifysgol Cymru). Golygodd gyfrolau arbennig o’r cyfnodolion Comparative American Studies (‘The Celtic Nations and the African-Americas’, 2010)  a Keywords (‘Raymond Williams in Japan’, 2011). Bu’n gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Harvard yn 2012 dan nawdd Ymddiriedolaeth Leverhulme, a bu’n gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru o 2007-2010. Ymhlith ei brif ddiddordebau ymchwil mae llenyddiaethau Cymru, llên Affro-Americanaidd, cenedlaetholdeb, theori a syniadaeth. Mae hefyd yn sacsoffonydd gyda’r chwechawd Jazz-Gwerin ‘Burum’ ac yn ymddangos ar y recordiau ‘Alawon’ (Fflach, 2007) a ‘Caniadau’ (Bopa, 2012).