Cyn-fyfyriwr nodedig o Frwnei i roi Darlith Goffa James Callaghan 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Anrhydeddus Pehin Orang Kaya Pekerma Dewa Dato Seri Setia Lim Jock Seng, Ail Weinidog Materion Tramor a Masnach Darwsalam Brwnei, yn dychwelyd i'w alma mater yr wythnos nesaf i roi Darlith Goffa James Callaghan 2015.

The Honourable Pehin Dato Lim Jock SengBydd yr Anrhydeddus Pehin Dato Lim Jock Seng yn cyflwyno darlith yn Theatr Taliesin Prifysgol Abertawe ar ddydd Llun, 29 Mehefin am 5pm, ar thema Enhancing ASEAN-UK Relations: Forging closer ties between Brunei Darussalam and Swansea in a globalised world.

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae'n bleser gennym groesawu un o'n cyn-fyfyrwyr rhyngwladol mwyaf nodedig, yr Anrhydeddus Pehin Lim Jock Seng, yn ôl i roi'r hyn rwy'n siŵr fydd yn Ddarlith Goffa James Callaghan hynod ddiddorol a phryfoclyd.

"Rwy'n hyderus y bydd darlith eleni'n atseinio ar draws y Brifysgol, yn ogystal â meddu ar weledigaeth gref ac amlwg ar gyfer darparu ymchwil, arloesi ac addysg o safon fyd-eang, gan hefyd ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, gydag addysgu o'r ansawdd uchaf, gan gynhyrchu graddedigion sydd wedi'u paratoi ar gyfer cyflawniadau personol a phroffesiynol nodedig.

"Mae cyfleoedd cyffrous ar ddod i Brifysgol Abertawe, wrth i ni baratoi ar gyfer cyfnod newydd gydag agor ein campws gwyddoniaeth ac arloesi, Campws y Bae, fis Medi.

"Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol fyd-eang sy'n dilyn strategaeth ryngwladoli uchelgeisiol. Wrth i ni symud ymlaen, edrychwn ymlaen at feithrin perthynas agosach fyth â Darwsalam Brwnei a'n nifer cynyddol o bartneriaid rhyngwladol, y maent yn hanfodol i'n llwyddiant parhaus ac i ddarparu cyfleoedd cyffrous pellach er budd ymchwil ac arloesi, a'n staff a'n myfyrwyr."

Derbyniodd yr Anrhydeddus Pehin Dato Lim Jock Seng ei radd Baglor yn y Gwyddorau (BSc) mewn Cymdeithaseg/Anthropoleg Gymdeithasol o Brifysgol Abertawe a'i radd Meistr Seicoleg (MPhil) mewn Anthropoleg Gymdeithasol o Ysgol Economeg a Gwyddoniaeth Wleidyddol Llundain.

Dechreuodd ei yrfa yn Amgueddfa Brwnei fel Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr, yna symudodd i Weinidogaeth Materion Tramor Darwsalam Brwnei fel Prif Gyfarwyddwr Darwsalam Brwnei Cymdeithas Cenhedloedd De-Ddwyrain Asia (ASEAN) ym mis Awst 1983.

Yna penodwyd fel Uwch Gomisiynydd Darwsalam Brwnei ar gyfer Seland Newydd ym mis Chwefror 1986.

Ym mis Mai 1986 daeth yn Gyfarwyddwr Gwleidyddiaeth yn y Weinyddiaeth Materion Tramor, a dyrchafwyd i swydd Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Materion Tramor yr un flwyddyn.

Penodwyd gan Ei Fawrhydi Swltan Haji Hassanal Bolkiah fel aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 2003 ac fel aelod swyddogol o'r Cyngor Deddfwriaethol yn 2004.

Rhoddwyd teitl Pehin Menteri a Dato Seri Setia iddo am ei wasanaethau, yn ogystal â dyfarniadau teilwng eraill gan Ei Fawrhydi. Penodwyd fel Ail Weinidog Materion Tramor a Masnach ym mis Mai 2005.

Sefydlwyd Cyfres Ddarlithoedd James Callaghan Prifysgol Abertawe ar achlysur dathlu ei thri chwarter canmlwyddiant ym 1995, i goffáu Llywyddiaeth y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Callaghan o Gaerdydd (1912-2005). Yr Arglwydd Callaghan, a oedd yn Brif Weinidog Prydain rhwng 1976 a 1979, oedd Llywydd Prifysgol Abertawe o 1986 tan 1995, a daeth yn Gymrawd Anrhydeddus o'r Brifysgol ym 1992.

Ym mis Hydref 1996 dychwelodd yr Arglwydd Callaghan i Brifysgol Abertawe i agor yr adeilad ar y campws a enwyd er anrhydedd iddo. Yn briodol mae'r adeilad yn adlewyrchu bywyd gwaith yr Arglwydd Callaghan, am ei fod yn gartref i'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Adran Hanes (ymhlith eraill).

Mae mynediad i Ddarlith Goffa James Callaghan 2015 am ddim ac mae croeso i bawb. I gadw eich tocyn am ddim, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Taliesin drwy ffonio 01792 602060 neu e-bostio office@taliesinartscentre.co.uk.

Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.