Mae uwch-ddarlithydd nyrsio o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod yn un o 10 cymrawd yn unig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i gael eu recriwtio eleni o ledled y DU.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i Julia Terry, Uwch-ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl, ar ôl cyflwyno ei chais a chynnal cyfweliad llwyddiannus y mis diwethaf.
Cymrodorion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yw uwch arweinwyr y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithredu fel llysgenhadon ar lefel ranbarthol a chenedlaethol ac ymhlith eu grwpiau proffesiynol a’u cyfoedion. Mae Cymrodorion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn creu rhwydweithiau o bobl broffesiynol ddylanwadol sy’n cefnogi’r Sefydliad cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal o ran gweithredu ei gyngor.
Meddai Ms Terry: “Byddaf yn ymgymryd â’r rôl hon unwaith y mis, gan ymgysylltu ag uwch staff y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Fy mwriad yw ysgogi gwella iechyd trwy ddatblygu rôl pencampwr y myfyrwyr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal ac Iechyd yn y Coleg, gan archwilio i ddeunydd dysgu ac addysgu presennol ar gyflyrau iechyd meddwl, trafod arfer da â rhanddeiliaid ac yn olaf hyrwyddo a datblygu ymhellach ymwneud cleifion a’r cyhoedd â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal ac Iechyd.
“Bydd gennyf lawer i’w ddysgu ar y cychwyn, ond mae llawer o gyfleoedd yma i fyfyrwyr, cydweithwyr a’n partneriaid bwrdd iechyd.”
- Dydd Mercher 4 Chwefror 2015 00.00 GMT
- Dydd Mercher 11 Chwefror 2015 16.54 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049