Cyfres ddrama gyntaf Dr Fflur Dafydd yn dechrau ar S4C

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Parch, cyfres ddrama gyntaf Dr Fflur Dafydd, Uwch Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn dechrau nos Sul, 31 Mai ar S4C - cyfres ddwys ac ysgafn fydd yn ein harwain ar siwrnai ddirdynnol.

Mae Dr Dafydd wedi hen ennill ei phlwyf fel awdur, ac wedi cipio'r Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y llynedd, cyhoeddwyd y bydd Y Llyfrgell, nofel Dr Dafydd yn cael ei haddasu’n ffilm fel rhan o gynllun Sinematig Asiantaeth Ffilm Cymru. Yn ogystal â’i gwaith fel darlithydd ac awdur, mae hi hefyd yn gyfansoddwraig ac yn gantores.

Fflur DafyddFicer yw prif gymeriad Parch, Myfanwy Elfed, ond er hynny nid drama am grefydd yw'r gyfres yn ôl Dr Dafydd (chwith), sy'n wreiddiol o Landysul ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin.

"Mae Myfanwy'n fenyw ac yn fam gyntaf, ac yn ficer wedyn. Mae stori Myfanwy'n nodweddiadol o hanes nifer o ferched, sy'n ceisio'u gorau i fagu teulu tra'n gwneud cant a mil o bethau eraill". 

Pan dderbynia Myfanwy newyddion fod ganddi gyflwr ar ei hymennydd, mae ei hagwedd tuag at fywyd yn newid. Mae'n edrych ar y byd mewn modd gwahanol, a chaiff ei pherthynas â'i theulu ei siglo.

Ond er bod y testun yn dywyll a dwys, nid yw'r ddrama yn un drom, yn ôl Dr Dafydd. Mae'r newidiadau yn ymennydd Myfanwy'n golygu ei bod yn cael rhithiau difyr a lliwgar, ac mae hyn yn aml yn arwain at olygfeydd mwy ysgafn.

"Mae'n anodd rhoi genre ar fy ngwaith, ond dwi'n hoff o gyfuno'r real a'r swreal," meddai Dr Dafydd. "Mae cymeriadau Parch i gyd â rhyw elfen absẃrd yn perthyn iddynt."

Teimla Myfanwy fod y byd yn ei herbyn; mae ei pherthynas â'i gŵr a'i phlant yn fregus, ac nid yw'n gallu rhannu'r newydd am ei hafiechyd gyda nhw. Mae Myfanwy yn cwestiynu pwrpas bywyd, ac yn agosáu at ymgymerwr y pentre', Eurig.

Mae Dr Dafydd ei hun yn briod ag Iwan sy'n ymgymerwr, ac mae wedi bod yn cydweithio'n agos gyda ficer go iawn wrth lunio'r gyfres, sef ficer o blwyf Llanddulas a Llysfaen.  

"Mae cael adborth fy ngŵr  Iwan, a'r Parchedig Manon Ceridwen James, wedi bod yn hanfodol wrth greu'r ddrama. Mae'r ficer a'r trefnwr angladdau yn ffigyrau mor allweddol mewn cymdeithas, yn enwedig wrth gynorthwyo pobl i ddod i delerau â galar, ac mae hi'n bwysig iawn fod hynny'n cael ei bortreadu'n gywir ar y sgrin."

Darlledir Parch ar nos Sul am 9.00pm ar S4C, gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Ailddarlledir Parch ar nos Fawrth am 10.00pm gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrîn. 


Llun: Hawlfraint Chris Reynolds