Cydweithio: Sut y mae Abertawe wedi ymuno ag uwch gynghrair prifysgolion y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, yn amlinellu’r pethau gwych sydd ar y gorwel i’r sefydliad pan fydd y datblygiad newydd, Campws y Bae, sy’n werth £450m, yn agor ym mis Medi 2015.

Aerial1 Bay CampusYr hydref hwn, bydd Prifysgol Abertawe’n agor Campws y Bae, sef ei champws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd sy’n werth £450m ac sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan St. Modwen, arbenigwr adfywio blaenllaw’r DU. Mae’r datblygiad wedi’i gydnabod yn eang yn un o brif brosiectau economi wybodaeth Ewrop. 

Gyda rhodd 40-hectar gan un o brif bartneriaid diwydiannol y Brifysgol, BP, mae uchelgais a natur ddiwydiannol y datblygiad hwn wedi denu £60m gan Fanc Buddsoddi Ewrop – y buddsoddiad cyntaf o’i fath gan Fanc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru.

Mae gweledigaeth y Brifysgol hefyd wedi’i chefnogi’n sylweddol gyda thros £90m mewn cyllid strwythurol gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ewrop, a thrwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a chyda thros £20m i greu Canolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg.

Bydd Campws y Bae yn parhau â thraddodiad Prifysgol Abertawe o gyd-leoli ymchwil a diwydiant i yrru arloesi, twf economaidd ac entrepreneuriaeth yn yr ardal.  Mae’r dull gweithio academaidd a diwydiannol integredig yn Abertawe’n sicrhau cryfder mewn gwybodaeth gymhwysol a phrofiad ‘byd go-iawn’ gwych ar gyfer ein myfyrwyr.

Mae cysylltiadau ymchwil cydweithredol y Brifysgol gyda byd diwydiant ymhlith y gorau yn y DU. Ar Gampws y Bae, bydd yr Ardal Beirianneg ei hun yn gartref i ddau sefydliad ymchwil newydd, a fydd yn caniatáu cydweithrediadau ymchwil mawr ar y cyd â Rolls-Royce, Tata Steel, a BP mewn profi defnyddiau a diogelwch ynni.

Mae’r biliwnydd telegyfathrebu, Syr Terry Matthews - sy’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe - yn hyderus y gall Prifysgol Abertawe a’i champws gwyddoniaeth ac arloesi newydd, Campws y Bae, chwarae rôl gref yn y gwaith o lywio twf economaidd ac adfywio yn yr ardal a thu hwnt. 

Meddai Syr Terry y byddai wrth ei fodd pe bai Prifysgol Abertawe’n adnabyddus am y graddedigion gorau ym maes meddalwedd a’r bobl orau ym maes cyfrifiadureg, a phe byddai’r ardal yn dod yn adnabyddus yn fyd-eang fel sefydliad “o safon fyd-eang” mewn meddalwedd, yn ogystal â chodi lefelau entrepreneuriaeth graddedigion. Mae Abertawe’n derbyn yr her.

Dangosodd llwyddiant Abertawe yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ym mis Rhagfyr 2014 y cynnydd mwyaf yn y safleoedd ar gyfer unrhyw brifysgol ymchwil-ddwys yn y DU, wedi iddi ddringo i’r 26ain safle o’r 52fed yn 2008, gan ddarparu ymchwil o safon ardderchog yn rhyngwladol ac sy’n arwain yn fyd-eang ar draws pob disgyblaeth – Gwyddoniaeth, Peirianneg, Meddygaeth, y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn mesur effaith - hynny yw'r gwahaniaeth y mae ymchwil wedi’i wneud i’r byd ehangach - a dangosodd fod dros 10,000 o swyddi wedi’u creu a’u diogelu; effaith economaidd o £2.1 biliwn; a bod 341 miliwn wedi ymgysylltu ag ymchwil Prifysgol Abertawe. 

Mae perfformiad ardderchog y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ganolog i’r gwaith o ysgogi a chyfoethogi’r addysgu a’r profiad a ddarperir i fyfyrwyr yn Abertawe. Chwaraeodd ran hanfodol wrth i ni gyflawni’r radd safon ansawdd uchaf o 5* ar gyfer rhagoriaeth addysgu, a sgôr boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol sy’n uwch na chyfartaledd y DU. 

Nid yw’n syndod felly fod Prifysgol Abertawe’n creu cynnwrf gyda’i champws presennol ym Mharc Singleton a Champws newydd y Bae sy’n cynnig lleoliadau ysbrydoledig a glan môr ysblennydd. 

Mae niferoedd myfyrwyr o’r DU a thramor wedi tyfu’n sylweddol, ac o ganlyniad mae gennym gymuned myfyrwyr fywiog ac ysgogol sydd â mynediad at rai o’r cymdeithasau a’r cyfleusterau chwaraeon gorau yn y DU.

Mae Academi Gyflogadwyedd y Brifysgol,  Canolfan Wirfoddoli Discovery  sydd wedi ennill Gwobr y Frenhines, a mentrau entrepreneuriaeth – wedi’u harwain gan arweinwyr ym myd diwydiant – yn sicrhau ein bod yn datblygu pobl ifainc yn raddedigion sydd â’r sgiliau academaidd a’r sgiliau bywyd y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.

Mae’r twf gwych hwn wedi digwydd mewn amgylchedd AU sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol. Mae twf incwm Abertawe dros y ddegawd ddiwethaf wedi perfformio’n well nid yn unig ym mhob maes yn y sector AU, ond hefyd o ran Grŵp Russell, mewn incwm ymchwil, a niferoedd myfyrwyr o’r DU a thramor (2003/04 i 2012/13).

Gan ddefnyddio cydweddiad chwaraeon – a chan gydnabod un o’n cydweithwyr eraill, Clwb Pêl-Droed Dinas Abertawe – mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno ag uwch gynghrair prifysgolion y DU.

Mae canfyddiadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn dangos bod Prifysgol Abertawe wedi llwyddo yn ei huchelgais i ddod yn un o'r 30 o’r prifysgolion ymchwil gorau yn y DU. Mae’r Brifysgol yn parhau i godi i’r entrychion ac atgyfnerthir hyn ymhellach drwy ddyblu gallu ymchwil ac addysgu pan fydd Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd y Bae’n agor.