Cefnogaeth Sefydliad Wolfson i Labordy Electroneg Pŵer a Systemau Pŵer Campws newydd y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £200k gan Sefydliad Wolfson er mwyn darparu cyfarpar ar gyfer ei labordy o'r radd flaenaf ar Gampws newydd y Bae a fydd yn arbenigo mewn hwyluso amrywiaeth eang o ymchwil ym maes electroneg pŵer a systemau pŵer.

Engineering EastBydd y cyfarpar yn galluogi cynnal ymchwil arloesol ym maes ynni yn Labordy Electroneg Pŵer a Systemau Pŵer newydd Wolfson, a gaiff ei leoli yng Nghanolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg y Coleg Peirianneg ar Gampws y Bae a fydd yn agor ym mis Medi 2015.

Diben pennaf Labordy Wolfson fydd cefnogi gwaith Canolfan Dylunio Systemau Electronig y Brifysgol, sy'n grŵp ymchwil Peirianneg Drydanol ac Electroneg yn y Coleg Peirianneg sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ragoriaeth ym maes ymchwil i electroneg pŵer a nanoelectroneg.

Dan arweiniad y Dr Petar Igic, mae'r Ganolfan Dylunio Systemau Electronig yn nodedig am gefnogi diwydiant drwy amrywiaeth o brosiectau ymchwil mawr, o brosiectau rhyngwladol blaenllaw i weithio ar brosiectau llai gyda busnesau bach a chanolig.

Mae noddwyr diwydiannol pwysig y Ganolfan yn cynnwys BT, Siemens, Plessey, GE Lighting,  IBM, TSMC, Schlumberger, COGSYS, SILICONIX, Morganite, Newbridge Networks, Alstom, City Technology, BNR Europe, Philips, SWALEC, DERA, BTG, Toyota a Hitachi.

Ymhlith y gweithgareddau ymchwil a gefnogir gan Labordy newydd Wolfson, bydd datblygu dyfeisiau electroneg pŵer a chylcheddau pŵer cyfannol, gan gynnwys y genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau sy'n seiliedig ar adeileddau newydd neu ddeunyddiau newydd megis Galiwm Nitride (GaN).

Meddai Paul Ramsbotton, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson, "Mae'r Sefydliad yn ariannu isadeiledd sy'n cefnogi ymchwil o safon ryngwladol, a gwnaeth cynnig uchelgeisiol Prifysgol Abertawe argraff dda arnom. Rydym yn ymrwymedig i ariannu prosiectau o ansawdd uchel ar draws Cymru, ac rydym wrth ein boddau'n gweithio gydag Abertawe ar y prosiect hwn."

Wrth groesawu'r newyddion am ddyfarniad y grant, meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau bod Sefydliad Wolfson wedi dewis cefnogi'r Brifysgol drwy ddyfarnu'r grant hwn. Mae'n cydnabod pwysigrwydd rhyngwladol a rhagoriaeth arloesi ein Coleg Peirianneg - yn ogystal â'r potensial ar gyfer pethau hyd yn oed mwy cyffrous o ganlyniad i ehangu ar Gampws y Bae.

"Bydd Campws y Bae yn creu amgylchedd gwych i feithrin rhagoriaeth ym maes gwyddoniaeth ac arloesi a bydd gan Labordy Wolfson rôl allweddol wrth ein helpu i gyflawni nodau ymchwil y Coleg Peirianneg ac uchelgais y Brifysgol o fod ymysg 200 prifysgol orau'r byd.

"Mae maes electroneg pŵer a systemau pŵer yn gynyddol bwysig yn fyd-eang fel rhan hanfodol o ymchwil ynni sy'n gallu dyfeisio'r systemau mwyaf effeithlon i gynhyrchu a dosbarthu ynni.

"Bydd y labordy'n hwyluso ymchwil arloesol a bydd ganddo rôl allweddol wrth gyflwyno rhaglenni ymchwil mewn maes sy'n hollbwysig i Abertawe."

Ychwanegodd Dr Petar Igic, Cyfarwyddwr y Ganolfan Dylunio Systemau Electronig yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae technoleg electroneg pŵer yn sylfaen i amrywiaeth eang o gymwysiadau a marchnadoedd ac mae'n hollbwysig i drawsnewidiad a chyflyru ynni.

"Mae systemau pŵer cadarn a dibynadwy yn fwy hanfodol heddiw nag erioed i gynnal cyflenwad trydan dibynadwy ar adeg pan fo'r grid cenedlaethol yn amrywio ei ffynonellau ynni i gynnwys rhai adnewyddadwy megis gwynt, ffotofoltäig ac ynni dŵr.

"Does dim amheuaeth na fydd y cyfuniad o gyfleusterau a gwyddonwyr o safon fyd-eang mewn Coleg Peirianneg uchelgeisiol sy'n ehangu yn Abertawe yn arwain at wybodaeth a darganfyddiadau gwyddonol newydd ac yn cael effaith drwy greu amgylchedd arloesi agored o ganlyniad i sefydlu Campws y Bae." 


Mae'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg a'r Ganolfan Arloesi yn rhan o'r ardal beirianneg newydd ar Gampws y Bae. Cawsant eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

ERDF logo NEW