Bioblaladdwyr – technolegau a strategaethau arloesol ar gyfer rheoli plâu: Abertawe i gynnal symposiwm rhyngwladol mawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe’n cynnal symposiwm rhyngwladol mawr ar fioblaladdwyr a thechnolegau a strategaethau arloesol ar gyfer rheoli plâu yn nes ymlaen eleni.

Cynhelir y symposiwm gan Adran y Biowyddorau  yn y Coleg o Fedi 7-9, a bydd yn cynnwys siaradwyr gwadd o UDA, Canada, Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol ac Awstralia.

Yn ogystal ag apelio at bobl sy’n ymwneud â garddwriaeth, coedwigaeth ac amaethyddiaeth, bydd y symposiwm hefyd yn berthnasol i bobl sy’n gweithio mewn llawer o adrannau a meysydd eraill, megis peirianneg, cemeg, ecoleg gemegol, dendrocronoleg, meteoroleg, roboteg ac iechyd pobl ac anifeiliaid. 

Meddai un o drefnwyr y symposiwm yr Athro Tariq Butt, sy’n arwain grwpiau ymchwil  y Coleg Swansea Natural Products (SNaP) a Biocontrol and Natural Products (BANP): “Mae bioblaladdwyr yn cynnwys cyfryngau rheoli biolegol microbaidd (ffyngau, bacteria, firysau, nematodau a microsporidia), echdynion o blanhigion ac organebau eraill, a chemegion sy’n newid ymddygiad (semiocemegion) megis fferonomau. 

“Cânt eu defnyddio’n eang i reoli pryfed, gwiddon, nematodau parasitig planhigion a phatogenau sy’n achosi afiechydon.

“Mae galw cynyddol am gynhyrchion heb weddillion sy’n amddiffyn cnydau ac sy’n cael ychydig neu ddim effaith ar iechyd pobl a’r amgylchedd, ymhlith rhai o brif sbardunau’r farchnad fioblaladdwyr.

“Mae’r cyfarfod hwn yn canolbwytnio ar y datblygiadau a wnaed wrth ddatblygu bioblaladdwyr ar gyfer rheoli plâu. Rhoddir sylw yn benodol i dechnolegau a strategaethau arloesol sy’n gwella effeithiolrwydd bioblaladdwyr a’u gallu i gystadlu. Bydd y cynhyrchion a’r strategaethau newydd yn dod yn nodwedd gyffredin mewn rhaglenni rheoli plâu yn y dyfodol. 

“Bydd y cyfarfod hefyd yn edrych ar offer a dulliau newydd a ddatblygwyd i gyflymu’r gwaith o ddarganfod bioblaladdwyr newydd ac ar gyfer sicrhau ansawdd.

“Mae llawer o’r cynhyrchion a ddatblygwyd ar gyfer plâu o fewn un sector yn profi’n effeithiol mewn sectorau eraill ac felly, bydd y cyfarfod o fudd i randdeiliaid megis ymchwilwyr, tyfwyr, diwydiant, asiantaethau llwyodraethol o’r sectorau coedwigaeth, amaethyddiaeth, garddwriaeth, iechyd pobl a chynhyrchu da byw.

Mae mudiadau sy’n cefnogi’r symposiwm yn cynnwys y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol  (BBSRC), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol  (NERC), y Gymdeithas Entomolegol Frenhinol, yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (FERA), Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), y Comisiwn Coedwigaeth ,  Cymdeithas Fycolegol Prydain, a llawer eraill .