Yr Athro Lyn Evans, cyn-fyfyriwr Ffiseg, yn ennill gwobr Arloesi a Thechnoleg yng Ngwobrau Dewi Sant

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Llongyfarchiadau gwresog i’r Athro Lyn Evans CBE FInstP FLSW FRS, cyn-fyfyriwr Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe, a enillodd y wobr Arloesi a Thechnoleg yn y Gwobrau Dewi Sant cyntaf.

Prof Lyn Evans St Davids AwardMae'r cynllun gwobrau cenedlaethol newydd yn cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru ac yn dathlu a chydnabod cyflawniadau anhygoel o bobl yng Nghymru.

Cafodd yr Athro Evans ei eni a’i fagu yn Aberdâr, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg i Fechgyn Aberdâr, lle datblygodd ei ddiddordeb yn ffiseg.

Graddiodd yr Athro Evans, un o gyn-fyfyrwyr mwyaf nodedig Prifysgol Abertawe, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg ym 1966 a'i PhD ym 1970. Cafodd ei wneud yn gymrawd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Abertawe yn 2002.

Aeth i CERN yn wreiddiol fel cymrawd ymchwil, ar ôl ymweld â’r sefydliad yn 1969. Ers 1994 bu’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio’r prosiect sy’n cael ei adnabod bellach fel y Gwrthdrawydd Hadronau Mawr.

Fel Arweinydd Prosiect yr LHC yn CERN – y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear – chwaraeodd ran ganolog yn y gweithredoedd yn ystod y cyfnod adeiladu a chomisiynu, i ddechreuad yr LHC ar Fedi 10, 2008.

Cafwyd y gwrthdrawiad gronynnau cyntaf y mis Mawrth 2010, ac ym mis Gorffennaf 2012 cyhoeddodd CERN ddarganfyddiad Boson Higgs, yr adeiladwyd y LHC er mwyn ei ddarganfod.

Yn yr un flwyddyn, enillodd Yr Athro Evans Wobr Ffiseg Sylfaenol Arbennig 2012.