Y pen a'r cyhyrau ar waith wrth i Baffio Farsity 2014 ddod i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y timoedd yn defnyddio eu pennau a'u cyhyrau yr wythnos nesaf wrth i Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd fynd benben yn erbyn ei gilydd yng ngornest paffio Farsity Cymru.

Varsity boxingMae'r drysau'n agor am 7.30pm ddydd Llun 7 Ebrill 2014 yn Oceana, Ffordd y Brenin, Abertawe,a bydd yr ornest gyntaf yn cychwyn am 8pm. Mae mynediad am ddim i bawb sydd â thocyn i gêm rygbi'r Farsity.  Fel arall, mae tocynnau ar gael am £12.50 (£15 i'r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr) wrth y drws neu o wefan Undeb y Myfyrwyr.

Er bod Clwb Paffio Amatur Prifysgol Abertawe wedi cael blwyddyn anodd, wrth i Aveon Perryman - prif hyfforddwr a sylfaenydd y clwb - symud ymlaen i Gymdeithas Paffio Amatur Lloegr, ac wrth i'r cynlluniau ar gyfer campfa newydd gael eu gohirio, mae'r clwb wedi cadw ei nerth.  Mae nifer yr aelodau ac enwogrwydd y clwb ill dau wedi tyfu.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r aelodau wedi dangos gwelliant sylweddol, gan ennill llawer o ornestau. Yr uchafbwynt i'r clwb oedd cystadleuaeth rhwng Prifysgolion Cymru a Lloegr ym mis Rhagfyr.  Roedd y doniau gorau ar ddangos, enillodd Cymru, a thyfodd enwogrwydd Abertawe a Chaerdydd yn y maes o ganlyniad.

Nawr, fel mae'r Prif Hyfforddwr newydd, Alex Ruddy'n cyfaddef, mae'r amser wedi dod i Abertawe wynebu Caerdydd yn y ring.

Dywedodd Alex, sy'n astudio Biocemeg Feddygol lefel 2 yn Abertawe: “Arwyddair ein tîm yw ‘Brwydro am Falchder’.  Mae'r geiriau'n arbennig o berthnasol wrth i Farsity Cymru nesáu.  Mae aelodau'r tîm wedi rhoi'r cyfan sydd ganddynt, gan hyfforddi fel peiriannau ac ymladd fel anifeiliaid i baratoi at yr ornest hon rhwng y ddwy brifysgol.

"Caerdydd sy'n dal y tlws ar hyn o bryd, ond nid oes gennym unrhyw fwriad o ganiatáu iddo aros yno. Mae'r ymdrech a'r ysbryd a ddangosir fan hyn yn llenwi fy nghalon â balchder bob sesiwn. Ennill neu golli, mae pob un ohonynt wedi ennill yr hawl i gael ei alw'n rhyfelwr ac i ddathlu bod yn athletwr elitaidd."

Dywed Alex mai un o uchelbwyntiau'r noson fydd yr ornest rhwng Kieran Ryan, myfyriwr Biocemeg 19 oed yn ei ail flwyddyn yn Abertawe, ac Edgar Weaver o Gaerdydd.

Meddai Alex: "Roedd perfformiad Kieran wrth ennill yn y Farsity'r llynedd yn ornest y noson, ac mae wedi dangos ymrwymiad anhygoel wrth baratoi am ei ornest Farsity nesaf.  Ond mae Edgar yn ymladdwr ffyrnig a fydd yn profi sgiliau Kieran i'r eithaf."

Varsity boxing Bydd yr holl ornestau eleni rhwng dynion, gan nad oedd y timoedd yn gallu trefnu gornest addas am yr un o'u hymladdwyr benywaidd. Fodd bynnag, mae Paffio Prifysgol Abertawe wedi addo y bydd aelodau benywaidd y clwb yn dod i'r amlwg mewn cystadlaethau sydd ar y gorwel ac yn ystod y flwyddyn nesaf.

Gemau'r Farsity yw'r digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a'r ail fwyaf o holl gemau Farsity Prydain - dim ond y gemau rhwng Rhydychen a Chaergrawnt sydd ar raddfa fwy.