Ymchwilwyr Abertawe yn arddangos yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Fe fydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn ymuno ag enwogion megis yr hanesydd a chyflwynwraig teledu Suzannah Lipscomb, a chyflwynydd Bang Goes the Theory, Liz Bonnin, i arddangos eu gwaith sydd o safon byd-eang yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham y 'Times'

Mae'r Brifysgol unwaith eto yn Brif Gefnogwr gŵyl wyddoniaeth fwyaf blaenllaw'r DU, a gynhelir o ddydd Mawrth, 3 Mehefin tan ddydd Sul, 8 Mehefin. Bydd yr arbenigwr bywyd gwyllt a chyflwynydd CBBC Deadly Pole to Pole,Steve Backshall, a chyflwynydd BBC Radio 5 Live, Richard Bacon, yn gyfarwyddwyr gwadd i’r ŵyl eleni.

Mae trefnwyr yr Ŵyl wedi dewis tri o'r meysydd ymchwil mwyaf arloesol a chyffrous yn y Brifysgol i fod yn rhan o'i rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, sy'n cynnwys popeth o darddiad y bydysawd a dyfodol y byd – i’r  gwyddoniaeth o gacennau, coctels a chathod.

Nick Owen, Dr Ian Mabbett, a Dr Richard Johnston o Goleg Peirianneg y Brifysgol fydd yn cynrychioli Prifysgol Abertawe eleni.

Bydd y biofecanydd chwaraeon ac ymarfer corff, Nick Owen, sydd wedi gweithio gyda UK Sport, British Skeleton, Undeb Rygbi Cymru, Y Gweilch, tîm rygbi Caerfaddon, a llawer mwy, yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad.

Mae’r digwyddiad cyntaf, sydd eisoes wedi’i ddewis fel ‘Dewis y Cyfarwyddwr’ gan Steve Backshall, yn ffocysu ar anatomeg balerina a chwaraewr rygbi er mwyn dangos sut mae’r cyhyrau gwahanol yn gweithio. 

Yn yr ail ddigwyddiad, fydd yn cynnwys yr hanesydd a’r gyflwynwraig teledu Suzannah Lipscomb, bydd Nick Owen yn helpu datgloi cyfrinachau capsiwl amser o long ryfel Harri VIII, y Mary Rose.

Yn ddiweddar arweiniodd Mr Owen, sy'n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Meddygaeth a Thechnoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cymhwysol (A-STEM), waith i ddarganfod mwy am fywydau saethwyr canoloesol ar long, gan gynnwys ail-greu wyneb un o saethwyr elit Harri VIII, a foddodd ar y Mary Rose ym 1545.

Dr Andrew King yw arweinydd Cymdeithasoldeb, Cymysgrywiaeth, Trefniadaeth ac Arweinyddiaeth (SHOAL), grŵp ymchwil yn Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, sy'n ymchwilio i ymddygiad anifeiliaid ar y cyd mewn amrywiaeth o rywogaethau a chyd-destunau.

Bydd Dr King yn cymryd rhan mewn digwyddiad gyda Liz Bonnin o BBC Bang Goes the Theory, a fydd yn edrych ar ba mor deallus a chymdeithasol mae aniefiliad.

Dr Ian Mabbett a Dr Richard Johnston o Ganolfan Ymchwil Deunyddiau Prifysgol Abertawe fydd yn arddangos yn Explore Zone yr Ŵyl, mewn cydweithrediad gyda Chyngor Ymchwil Peirianneg a Ffisegol (EPSRC) sydd yn ffocysu ar ‘Ddeunyddiau, technoleg ac ymchwil arloesol’.

Dr Ian Mabbett a Dr Richard Johnston o Ganolfan Ymchwil Deunyddiau Prifysgol Abertawe fydd yn arddangos deunyddiau o’u prosiect Materials: Live! yn yr Explore Zone. Bydd y deunyddiau’n cynnwys deunyddiau clyfar a deunyddiau profi byw yn y gofod arddangos.

Dywedodd yr Athro Steve Wilks, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe ac yn ddarpar Dirprwy-Is-Ganghellor: "Fel un o gefnogwr mawr yr Ŵyl eleni, rydym yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth o ragoriaeth ymchwil y Brifysgol yn un o wyliau  wyddoniaeth mwya’r byd.

“Mae cymryd rhan yn yr Ŵyl unwaith eto eleni yn gyfle i amlygu meysydd gwyddoniaeth deunyddiau, chwaraeon a gwyddoniaeth, a biowyddorau, yn ogystal â darparu llwyfan delfrydol i ni ymgysylltu â'r cyhoedd i wneud hyn.

“Rydym yn hynod falch o'n ymchwilwyr arloesol sy’n cymryd rhan eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sy'n argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous arall i Brifysgol Abertawe yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham y ‘Times’”.

Dyma restr o ddigwyddiadau ymchwilwyr y Brifysgol yn yr Ŵyl:

 Anatomeg Chwaraeon: Yn Fyw (Dewis y Cyfarwyddwr gan Steve Backshall)

Dyddiad: Dydd Iau, 5 Mehefin

Amser: 6:30pm – 7:30pm

Lleoliad: Winton Crucible

Yn y wers anatomeg hon, bydd yr arlunydd, awdur a’r darlledwraig Alice Roberts yn paentio cyrff dawnsiwr bale a chwaraewr rygbi er mwyn dangos sut mae cyhyrau’r corf yn gweithio.

Bydd Iain Lyburn, radiolegydd ymgynghorol yn y GIG Swydd Gaerloyw, yn cymharu hyn gyda sganiau MRI. Bydd biofecanydd chwaraeon ac ymarfer corff, Nick Owen, hefyd yn archwilio'r gwahaniaethau yn eu cyhyrau.


Y Mary Rose: Capsiwl amser o gyfnod y Tuduriaid.

Dyddiad: Dydd Gwener, 6 Mehefin

Amser: 2pm – 3pm

Lleoliad: Theatr Helix

Arbed llong ryfel Harri VIII, y Mary Rose, oedd un o'r prosiectau mwyaf cymhleth a drud yn hanes archaeoleg forwrol. Bydd Alexzandra Hildred, Curadur Ymddiriedolaeth y Mary Rose, yr hanesydd a chyflwynydd teledu Suzannah Lipscomb, a’r biofeganig chwaraeon ac ymarfer corf, Nick Owen o Brifysgol Abertawe Nick Owen yn archwilio’r hyn rydym wedi dysgu o'r capsiwl amser o gyfnod y Tuduriaid.


Ymddygiad a Deallusrwydd Anifeiliaid

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 7 Mehefin

Amser: 10am – 11am

Lleoliad: Ystafell Pillar

Bydd y gyflwynwraig Bang Goes the Theory, Liz Bonnin, yn siarad ag ecolegydd ymddygiadol Prifysgol Abertawe, Dr Andrew King, a Katie Slocombe, seicolegydd esblygiadol o Brifysgol Efrog. Byddant yn archwilio pa mor ddeallus mae anifeiliaid, ac os yw’n bosib i tsimpansïaid allu siarad.


Archwilio: Deunyddiau, technoleg ac ymchwil arloesol

Dyddiadau/ Amseroedd: Dydd Sadwrn, 7 Mehefin, o 12pm – 8pm a dydd Sul, 8 Mehefin, o 12pm – 6pm

Lleoliad: Explore Zone, mewn cydweithrediad â Chyngor Ymchwil Peirianneg a Ffisegol (EPSRC)

Dr Ian Mabbett a Dr Richard Johnston o Ganolfan Ymchwil Deunyddiau Prifysgol Abertawe fydd yn arddangos deunyddiau o’u prosiect Materials: Live! yn yr Explore Zone. Bydd y deunyddiau’n cynnwys deunyddiau clyfar a deunyddiau profi byw yn y gofod arddangos.