Ymchwil pwysig yn adnabod cwmnïau i’w harchwilio gan Fuddsoddwyr posibl yn y Farchnad Fuddsoddi Amgen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd adroddiad ymchwil pwysig gan ED Cymru®, a gyhoeddwyd heddiw gan Brifysgol Abertawe, yn estyn help llaw i Fuddsoddwyr posibl yn y Farchnad Amgen fel y gallant benderfynu a fydd cwmni penodol yn cael y canlyniadau gorau wrth ddefnyddio patentau i greu cyllid ac uchafu elw.

Mae cyhoeddi Adroddiad Interim ED Cymru® ‘Patent Prospecting on the Alternative Investment Market’  yn amserol gan y mis hwn bydd Treth Stamp ar brynu a gwerthu cyfranddaliadau yn y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM) yn cael ei diddymu a fydd yn creu ysgogiad pellach i hyrwyddo gwellhad economaidd y DU drwy newid y rheolau treth ar gyfer buddsoddiadau mewn micro-gyfranddaliadau.

Bydd y newid hwn yn y rheolau treth yn golygu y bydd cyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar AIM yn arbennig o ddeniadol i’w cynnwys mewn ISAau gan y bydd elw’n cael ei ddiogelu nid yn unig rhag Treth Incwm a Threth ar Enillion Cyfalaf ond hefyd o bosib rhag Treth Etifeddiant.

Fodd bynnag, er bod nifer y masnachwyr mewn cyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar AIM wedi cynyddu’n sylweddol, mae Cyfranddaliadau AIM yn ddrwg-enwog am fod yn gyfnewidiol ac yn anaddas i’r rhai nad ydynt yn hoffi mentro peryglon.

Gwnaeth ED Cymru® chwilio’r holl gwmnïau sydd wedi’u rhestru ar AIM ar gyfer daliadau patentau rhwng 1993 i 2013. Wedyn gwnaethant ddadansoddi’r 12,000+ o gofnodion patentau a ddarganfuwyd a chan ddefnyddio technegau dadansoddi patentau, fe’i lleihawyd i 12 o batentau’n dangos potensial masnachol amlwg.   Gan weithio ar y cyd ag Atwrnai Patentau Siartredig, arweiniodd dadansoddiad mwy manwl o’r 12 o batentau hyn at restr derfynol o bum cwmni i’r buddsoddwr posibl eu hadolygu, Blinkx PLC (BLNX), Alliance Pharma PLC (APH/A), Seeing Machines Ltd (SEE), Sphere Medical Holdings PLC (SPHR), Surgical Innovations Group Ltd (SUN).  

Meddai’r Athro Cyswllt Andrew Beale OBE, Cyfarwyddwr ED Cymru®, Prifysgol Abertawe: “Tra bod yr ymchwil hwn yn tynnu sylw at 79 o gwmnïau o ddiddordeb, bydd ein system raddio’n galluogi’r buddsoddwr posib i benderfynu a oes gan y pum cwmni hyn yn benodol y strategaeth asedau deallusol briodol a’r tîm rheoli cywir i gael y canlyniadau gorau wrth ddefnyddio eu patentau i greu cyllid ac uchafu elw”.

  •  Mae ED Cymru® yn  fenter arobryn werth £4m sy’n cynnig cymorth i fusnesau ac sy’n gweithredu yn y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnachu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. 
  • Ers ei lansiad ym mis Mehefin 2002, bu ED Cymru® yn darparu cyngor strategol i dros 750 o gleientiaid, yn helpu i ddal a diogelu 205 o batentau, 60 o nodau masnach a 12 o ddyluniadau diwydiannol o gwmpas y byd ac wedi rhoi cymorth ariannol ar gyfer 25 o gytundebau trwyddedu ED.
  • Mae ED Cymru® wedi canfod mai’r prif elfennau allweddol sydd eu hangen er mwyn i fusnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth lwyddo yw mynediad at dechnoleg uwch a gwybodaeth ymarferol arbennig, tîm rheoli sy’n hyddysg mewn ED a chyllid. 
  • Mae profiad ED Cymru® wedi’i arwain at y casgliad y bydd tîm rheoli sy’n fwy hyddysg ac yn fwy ymwybodol o ED yn gwneud defnydd masnachol gwell o dechnoleg wannach nag y bydd tîm rheoli gwannach yn gwneud o dechnoleg well ac y bydd timau rheoli da’n denu cyllid. Felly mae’n bosib y bydd buddsoddwyr o’r farn bod ansawdd y tîm rheoli’n bwysicach nag ansawdd y dechnoleg.
  •  Mae canolbwynt ED Cymru® felly yw ar wella ansawdd rheoli drwy ymchwilio’r gyfraith yn ymwneud â rheoli a phrynu a gwerthu asedau deallusol.
  •  Gellir cysylltu â’r pum cwmni y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad drwy eu hasiantaethau cysylltiadau cyhoeddus h.y. Sphere Medical (Ivar Milligan – Consilium-Comms 020 7920 2342); Blinkx (Charlie Palmer – FTI Consulting 020 7269 7100); Alliance Pharma (Mark Court – Buchanan Communications 0207 446 5000); Seeing Machines & Surgical Innovations ( Paul Cornelius – Walbrook 020 7933 8780).