Wythnos Ryngwladol Bwydo ar y Fron: Academydd yn galw am ragor o gefnogaeth i famau sy'n bwydo ar y fron

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i'r ail Wythnos Ryngwladol Bwydo ar y Fron ar hugain (1-7 Awst) barhau, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi dweud y dylid gwneud mwy i gefnogi mamau yn y DU sy'n bwydo ar y fron.

Meddai Dr Amy Brown, Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Iechyd Cyhoeddus Plant yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe, er ei fod yn hysbys bod bwydo ar y fron yn diogelu iechyd y fam a'r babi, mae cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU yn isel.

Meddai, "Mae gan fabanod sy'n bwydo ar y fron risg is o salwch gastroberfeddol ac anadlol; heintiau'r glust; a gordewdra, ac mae'r mamau'n lleihau eu risg o ganserau atgenhedlol, osteoporosis a chlefyd y galon. Yn y DU mae'r Adran Iechyd yn awgrymu rhoi llaeth y fron yn unig i fabanod tan eu bod yn chwe mis, gan barhau i fwydo ar y fron tan un flwydd oed a'r tu hwnt."

Mae cyfraddau bwydo ar y fron yn DU yn isel, fodd bynnag. Er bod oddeutu pedair o bob pum mam newydd bellach yn dechrau bwydo ar y fron, mae llawer yn rhoi'r gorau iddi o fewn yr ychydig ddiwrnodau neu wythnosau cyntaf, ac oddeutu un o bob pump sy'n bwydo ar y fron pan fydd y babi'n chwe mis oed. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth. Mae rhai'n ei chael hi'n anodd, neu nid ydynt yn teimlo'n hyderus, a theimlant na allant gael digon o gefnogaeth. Mae eraill yn amau'r agwedd negyddol tuag at fwydo ar y fron, yn enwedig yn gyhoeddus, y’i cyflwynir yn aml yn y cyfryngau. Mae pryderon ynghylch delwedd y corff a theimlo embaras wrth fwydo o flaen eraill yn gyffredin hefyd. Yn olaf, gall agweddau ffrindiau a'r teulu sy'n teimlo wedi'u heithrio ac sydd am fwydo'r babi achosi i famau roi'r gorau iddi.

Meddai Dr Brown, "Mae dod o hyd i ffyrdd o gefnogi bwydo ar y fron yn bwysig er iechyd babanod a mamau newydd, ac ar ben hynny gall leihau salwch hefyd. Dengys ystadegau diweddar pe bai mwy o fabanod yn bwydo ar y fron, byddai llai o dderbyniadau i'r GIG, gan arbed miliynau o bunnoedd i drethdalwyr. Mae nifer o famau hefyd yn adrodd eu bod yn teimlo'n euog neu'n ofidus os nad ydynt yn gallu bwydo ar y fron, a gall profiadau negyddol neu ddiffyg cefnogaeth waethygu hyn. Mae bwydo ar y fron yn amddiffyn babanod, felly dylwn fod yn diogelu ac yn cefnogi mamau newydd i fwydo ar y fron."