Prifysgol Abertawe yn cynnal Pencampwriaethau Sbrint Ffederasiwn Cyfeiriadu Prydain.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ddydd Gwener, 18 Ebrill 2014 bydd Prifysgol Abertawe Campws Singleton yn cynnal Pencampwriaethau Sbrint Ffederasiwn Cyfeiriadu Prydain.

Disgwylir tua 2,500 o gystadleuwyr drwy gydol y diwrnod, yn dechrau ger y Mosg ac yn gorffen yn y Rhodfa y tu allan i'r Techniwm Digidol, gan rasio drwy'r campws a Pharc Singleton.

I baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn, caiff cyfarpar ac isadeiledd eu cludo ar brynhawn Iau, gan gynnwys ffensys a phebyll bach i Dŷ Fulton, a thoiledau cludadwy i'w rhoi ym maes parcio'r Cwad Peirianneg. Gobeithiwn na fydd hyn yn effeithio ar bobl fydd yn ymweld â’r campws.

Os byddwch yn agos at y Brifysgol ar Wener y Groglith, dewch i gefnogi'r rhedwyr!