Prifysgol Abertawe yn cadarnhau datblygiad pellach gwerth £50 miliwn ar gyfer llety myfyrwyr a chyfleusterau i Gampws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi arwyddo Cytundeb Datblygu Llety Myfyrwyr gyda St. Modwen, i ddarparu gwerth £50 miliwn o lety i fyfyrwyr a chyfleusterau newydd fydd yn hwb i ddatblygiad Campws y Bae.

Bydd y Cytundeb yn darparu llety i 545 o fyfyrwyr ychwanegol. Golyga hyn y bydd 1,462 o fflatiau myfyrwyr wedi’u lleoli o gwmpas cyrtiau cymunedol, gyda mynediad uniongyrchol i’r traeth ac i amwynderau myfyrwyr.

Bay Campus June 2014Bydd y datblygiad newydd hwn, sy’n werth £50 miliwn, hefyd yn darparu cyfleusterau ategol pwysig i fyfyrwyr a staff yn y Bae gan gynnwys neuadd chwaraeon a champfa hamdden bwrpasol, cae awyr agored dan lifoleuadau, cyfleuster meithrinfa a nifer o ystafelloedd ymarfer cerdd a mannau cymunedol i gefnogi clybiau a chymdeithasau.  Yn ogystal, bydd darpariaeth bwrpasol i Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn sicrhau cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddefnyddwyr y campws ei fwynhau.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Bellach mae Prifysgol Abertawe’n cynnal ei rhaglen datblygu campws. Yr hyn sydd wrth galon y fenter hon yw gwella profiad myfyrwyr. Flwyddyn nesaf fe fydd y Brifysgol yn gweithredu o ddau gampws - o gampws presennol hyfryd Parc Singleton a champws newydd y Bae". 

“Bydd y cyfleusterau a gyhoeddwyd heddiw yn gwella darpariaeth gyfansawdd y Brifysgol i fyfyrwyr, gan ychwanegu at amgylchedd addysgu academaidd eithriadol o dda dan arweiniad ymchwilwyr byd-enwog. Mae rhaglen ddatblygu a strategaeth y campws yn gwbl gyson ag uchelgais Prifysgol Abertawe sy’n dymuno bod ymysg 200 Prifysgol orau’r byd". 

Meddai Rupert Joseland, cyfarwyddwr rhanbarthol De Cymru St Modwen, perchennog y tir a phartner datblygu Campws y Bae: "Mae’r datblygiadau ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe yn dechrau ymffurfio gyda llawer o'r adeiladau allweddol yn awr ar y gweill, ac mae camau cyntaf y prosiect hwn yn y broses o gael eu cwblhau erbyn y flwyddyn nesaf. Mae datblygiad newydd Campws y Bae yn un o uchafbwyntiau rhaglen adfywio 3,500 erw barhaus St Modwen ar draws De Cymru, a’r cytundeb diweddaraf gyda'r Brifysgol yw'r cam nesaf yn ein gweledigaeth i greu sefydliad addysgol o'r radd flaenaf a fydd o fudd i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol am genedlaethau i ddod".

Mae’r Neuadd Fawr, Llyfrgell y Bae a’r Ysgol Rheolaeth i gyd yn rhan o'r cam cyntaf o’r gofod academaidd ac ymchwil a datblygu ar Gampws y Bae. Bydd y rhain yn sefyll ochr yn ochr â Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (cartref i Ddeunydd Abertawe a Research Testing Ltd), Peirianneg Ganolog (cartref i'r Canolbwynt Arloesi), Dwyrain Peirianneg (cartref i’r Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu) a Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI). Bydd llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu cwblhau dros yr haf wrth i’r Campws baratoi i groesawu myfyrwyr yr hydref nesaf. Cychwynnodd y gwaith ar fynedfa barhaol y Campws o ffordd ddeuol Ffordd Fabian yn gynharach y mis hwn.