O Brifysgol Abertawe i’r sgrîn fawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Jonny Owen, yn dychwelyd i’r brifysgol ar gyfer dangosiad ei ffilm newydd yng Nghanolfan Celfyddydau y Taliesin ar 6 Mai.

Yn enedigol o Ferthyr, mae Jonny Owen yn gynhyrchydd, awdur ac actor arobryn. Jonny yw awdur a seren y ffilm Svengali (tystysgrif 15), cyfres boblogaidd a ddechreuodd ar y rhyngrwyd sydd wedi’i haddasu’n ffilm i’r sgrîn fawr.

Jonny Owen Llun: Jonny Owen

Digrifiwyd y ffilm gan awdur Trainspotting, Irvine Welsh, fel “Un o’r ffilmiau Prydeining mwyaf cool a doniol ers tro”.

Mae Svengali yn adrodd hanes Dixie (Jonny Owen), postmon o gymoedd de Cymru sy’n ffanatig cerddoriaeth. Ar hyd ei oes, mae Dixie wedi breuddwydio am ddarganfod band a’u gwneud nhw’n enwog. Yna, un diwrnod, wrth edrych drwy glipiau YouTube, daw Dixie o hyd i fand  – ‘The premature Congratulations’. Mae Dixie yn llwyddo i ddod o hyd iddynt, ac mae Dixie a’i gariad, Shell (Vicky McClure) yn gadael y cymoedd i fynd i Lundain er mwyn dilyn ei freuddwyd fawr. 

Gyda chast o actorion o fri, mae sêr Svengali yn cynnwys Martin Freeman (The Office, Sherlock), yr actores arobryn Vicky McClure (This is England, Broadchurch) Katy Brand, a Matt Berry, ynghyd â ffigurau cerddoriaeth blaenllaw fel Alan McGeeand, Carl Barat a Jake Bugg.

Svengali Llun: Jonny Owen a Vicky McClure yn Svengali

Cychwynnodd Jonny ei yrfa actio tra’r oedd yn fyfyriwr hanes ym Mhrifysgol Abertawe, ac ers hynny, mae wedi ymddangos yn rhai o gyfresi mwyaf poblogaidd y DU, yn cynnwys, Shameless, Torchwood, Murphy’s Law, a My Family.Yn 2006, enillodd Jonny BAFTA Cymru raglen ddogfen ar drychineb Aberfan.

Wrth sôn am ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, meddai Jonny: “Mynd i Brifysgol Abertawe oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Ro’n i wrth fy modd â’r lle, a bydd gan y Brifysgol lle arbennig yn fy nghalon am byth”. 

Meddai Sally Thurlow, Rheolwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr  Prifysgol Abertawe, “Rydym yn falch dros ben fod Jonny yn dychwelyd yma ar gyfer dangosiad ei ffilm ddiweddaraf, a’i fod wedi neilltuo amser i gwrdd â rhai o’n myfyrwyr cyn y ffilm, yn ogystal â chytuno i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar ôl hynny.

“Mae’n fraint cael cwrdd â’n cyn-fyfyrwyr, gyda sawl un wedi mynd yn eu blaenau i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus i bedwar ban y byd”.

Yr Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, fydd yn arwain y sesiwn holi ac ateb gyda Jonny ar ôl y ffilm. 

Meddai’r Athro Spurr: “Mae’n wych i allu croesawu Jonny nôl i Abertawe wedi iddo dderbyn gradd hanes yma yn cyn ennill enw i’w hun yn y Celfyddydau. Rydym yn ymfalchïo yn hyr hyn mae Jonny wedi’i gyflawni, ac edrychwn ymlaen at weld ei ffilm newydd”.


Am docynnau ar gyfer Svengali, ewch i:

http://www.taliesinartscentre.co.uk/cinema.php?id=837&language=welsh

I wylio rhaglun Svengali, ewch i: http://www.bbfc.co.uk/releases/svengali-2013

Tystysgrif.15                                                                                        

Hyd: 88 munud