Myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth o Abertawe ar y rhestr fer am wobr genedlaethol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau fyfyriwr Gwyddorau Dynol ac Iechyd o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr fawreddog genedlaethol, sy'n cydnabod sgiliau proffesiynol eithriadol, a photensial at y dyfodol.

Mae Joseph Polson, nyrs dan hyfforddiant, a Lindsay Skyrme, bydwraig dan hyfforddiant, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn y Brifysgol, wedi'u henwebu ar gyfer yr unig ysgoloriaethau sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Nyrsys a Bydwragedd dan Hyfforddiant, sef rhai Ymddiriedolaeth Nyrsio Cavell.

Mae pum categori ar gyfer y gwobrau, sy'n cydnabod cyflawniad, y myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth gorau dan hyfforddiant, arweinyddiaeth, a chymuned.

Mae Joseph ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Arweinyddiaeth Edith Cavell, ac mae Lindsay ar y rhestr ar gyfer y wobr Cyflawniad Academaidd.

Ym mis Chwefror, dewisir y rhai a aiff i'r rownd derfynol gan banel o farnwyr o fri o nyrsys a bydwragedd blaenllaw, gan gynnwys yr Athro Lesley Page, Llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Caiff Joseph a Lindsay, yn ogystal â 27 ymgeisydd arall, eu cyfweld gan y panel.

Bydd enillwyr y gwobrau uchaf yn derbyn hyd at £2,000 i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol naill ai ym Mhrydain neu'n rhyngwladol, ar y cyd â'u prifysgolion.

Joe PolsonMeddai Julia Terry, Uwch-ddarlithydd ac Arweinydd Tîm Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r tîm addysgu Iechyd Meddwl yn hynod o falch o Joe am iddo gyrraedd y rhestr fer am Ysgoloriaeth Edith Cavell.

"Mae'n fyfyriwr brwd ac arloesol, ac mae wedi dangos angerdd am wella gofal iechyd meddwl ers iddo gychwyn ar y rhaglen BSc (Anrh) Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe.

"Mae cymhelliad cryf ganddo, ac mae'n rhoi 100% i bopeth mae'n ei wneud. Mae'n uchel ei barch ymhlith ei gyd-fyfyrwyr. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda'i gais."

Meddai Susanne Darra, Athro Cefnogol a Phennaeth Addysg Bydwreigiaeth, a Bydwragedd Arweiniol ar gyfer Addysg, ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r tîm addysgu bydwreigiaeth wrth ei fodd bod Lindsay Skyrme, myfyriwr bydwreigiaeth rhagorol, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflawniad Academaidd Eithriadol Edith Cavell. Dydyn ni ddim yn credu y gallai'r Ymddiriedolaeth ddod o hyd i neb sy'n fwy haeddiannol o ennill.

Lindsay Skyrme"Daeth Lindsay i'r Brifysgol trwy lwybr anarferol, ond mae'n ddysgwr rheibus, ac yn feddyliwr dwfn. Er gwaethaf ei rhagoriaeth academaidd, mae ymarfer bydwreigiaeth bob amser wrth wraidd ei dysgu, ac mae hynny'n amlwg yn holl sylwadau ei mentoriaid a'r holl farciau a gaiff ar gyfer ei hymarfer.

"Os bydd yn ddigon ffodus i ennill y Wobr, rydym yn hyderus y bydd yn ei defnyddio i ehangu ei gwybodaeth ac i ddatblygu ei sgiliau er mwyn helpu menywod a'u teuluoedd. Bydd hefyd yn sicrhau ei bod yn rhannu ei gwybodaeth trwy ei blog, sy'n boblogaidd iawn."

Mae enillwyr blaenorol yr ysgoloriaethau hyn wedi cydio yn y cyfle eithriadol i astudio a gweithio yn India ac Affrica, a theithiodd enillydd y wobr arweinyddiaeth y llynedd i fynyddoedd yr Andes ym Mherw i helpu nyrsio teuluoedd oedd yn dioddef o ganlyniad i lygredd yn y dŵr, yn sgil gwaith mwyngloddio.

Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Nyrsio Cavell, ewch i www.cavellnursestrust.org neu ffonio 01527 595999.