Myfyrwyr Abertawe yn mwynhau LA Law

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Anghofiwch am wneud te neu lenwi amlenni, bydd chwe myfyriwr o Abertawe yn treulio'u profiad gwaith yng Nghaliffornia yr haf hwn, gan weld LA Law eu dros hunain.

‌Bydd y myfyrwyr, o Goleg y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, yn treulio chwe wythnos ychydig y tu allan i Los Angeles yn cysgodi amddiffynyddion cyhoeddus ffederal a staff yn swyddfeydd y Barnwyr Rhanbarth.

La LawMeddai Charlotte Murray, myfyriwr ail flwyddyn Y Gyfraith ac Astudiaethau Americanaidd o Rydaman, "Rwy'n hynod gyffrous y byddaf yn gallu profi cyfle mor wych ac unigryw. Bydd yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy ngwybodaeth gyfreithiol mewn lle sy'n llawn hanes a diwylliant anhygoel."

Y chwe myfyriwr o Abertawe sy'n mynd i Galiffornia ar leoliad gwaith chwe wythnos (o'r chwith) Jood Alharthi, James Denton, Elinor Shanahan, Liam Bestwick, Charlotte Murray a William Davies.

‌‌Cyflawnodd y myfyrwyr brofion a chyfweliadau i ennill y lleoedd, chwech o 80 o leoliadau a drefnwyd ar gyfer myfyrwyr Coleg y Gyfraith yr haf hwn.

Bydd yr enillwyr yn derbyn ysgoloriaethau coleg i'w helpu â chostau teithio a llety. Sefydlwyd y lleoliadau gyda chymorth pennaeth Coleg y Gyfraith, Yr Athro John Linarelli, a fu'n gweithio yng Nghaliffornia yn y gorffennol, a'i gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol yno.Meddai'r Athro Linarelli, "Mae hwn yn gyfle ardderchog i'n myfyrwyr. Cynrychiola'r math o ddysgu gweithgar ac ymarferol  rydym yn ei ddatblygu fel nod amgen y Gyfraith yn Abertawe. Un o'r ffyrdd gorau o ddysgu'r gyfraith yw ei phrofi ar waith. Yn cynnwys yr elfen gymharol y mae myfyrwyr y gyfraith Abertawe yn ei chael drwy'r profiad hwn yng Nghaliffornia, bydd y canlyniadau'n drawsffurfiol i'n myfyrwyr."

Meddai'r enillydd, Will Davies o Swydd Rydwely, sy'n fyfyriwr ail flwyddyn Y Gyfraith a Busnes, "Mae'n fraint cael fy newis i gynrychioli'r Brifysgol. Mae'n gyfle unigryw i brofi gweithgarwch dydd i ddydd system gyfreithiol yr Unol Daleithiau, yn ogystal â bywyd fel preswylydd yng Nghaliffornia, a gweld pa mor wahanol ydyw i fywyd yn Abertawe. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr, ac rwy'n awyddus iawn i wneud y gorau o'r cyfle."

Meddai Jeffrey A. Aaron, Atwrnai Cyfarwyddo Swyddfa'r Amddiffynyddion Cyhoeddus Ffederal, "Bydd y lleoliadau hyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ennill profiad gwerthfawr o weithio gyda barnwyr ffederal neu oruchwylwyr asiantaethol a'u staff, ac ymgolli yn arferion a gweithdrefnau sifil ac ymgyfreithiad yn yr Unol Daleithiau."

Mae lleoliadau gwaith yr haf y Coleg bellach yn eu seithfed flwyddyn. Meddai Graham Jones o Smith Llewelyn Solicitors yn Abertawe, "Rydym yn falch o gefnogi'r cynllun ardderchog hwn. Yn y farchnad swyddi sydd ohoni, mae'n rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau newydd, i wella'u cyflogadwyedd ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfa yn y dyfodol."

Cynhelir diwrnodau agored i bobl ifanc sy'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar 28 Mehefin, 11 Hydref a 1 Tachwedd.