Myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn ennill gwobr fawreddog y Gymdeithas Ffisiolegol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r myfyriwr trydedd flwyddyn, Stephanie Jane Hanley, sy'n astudio BSc (Anrh.) Gwyddor Chwaraeon, wedi ennill Gwobr Israddedig Prifysgol Abertawe y Gymdeithas Ffisiolegol ar gyfer y Traethawd Hir Gorau ar Ffisioleg Ymarfer

Yn ogystal, enwebwyd Stephanie yn annibynnol ar gyfer Gwobr Israddedig Rob Clarke y Gymdeithas Ffisiolegol, y bydd angen iddi esbonio poster o'i gwaith yng Nghyfarfod Blynyddol eleni yn Llundain ym mis Gorffennaf ar ei chyfer.

Yn siarad am y wobr, meddai Stephanie, "Roedd derbyn gwobr mor fawreddog yn anrhydedd mawr. Rwy'n hynod falch bod blwyddyn o astudio dwys wedi talu'n dda."

Stephanie Hanley

Meddai goruchwyliwr Stephanie, Yr Athro Cefnogol, Dr Richard Bracken, Arweinydd Sefydliad y Gymdeithas Ffisiolegol, "Fel arfer mae myfyrwyr sy'n astudio gwyddor chwaraeon yn anelu at weithio gydag athletwyr a thimau elitaidd. Roedd gan Stephanie y rhagwelediad i ddefnyddio'i sgiliau gwyddoniaeth er lles y boblogaeth glinigol (pobl â diabetes math 1) a oedd am ymarfer corff a rheoli lefel y siwgr yn eu gwaed. Mae'n haeddu clod am hynny'n unig. Fodd bynnag, mae'r gwaith a gyflawnodd yn ardderchog, a dangosa ddealltwriaeth go iawn o gyflwr y cleifion ochr yn ochr â datrysiad posib i oresgyn y rhwystrau i ymarfer corff gyda diabetes."

Rhoir y Wobr Israddedig Ffisioleg ar gyfer y prosiect ymchwil ffisioleg BSc Anrhydedd gorau neu i fyfyriwr BSc eithriadol sydd wedi perfformio'n gyson drwy gydol y cwrs gradd ffisioleg, a rhoir un wobr ym mhob prifysgol. Teitl gwaith Stephanie yw 'An algorithm that delivers and individualised dose of rapid-acting insulin after morning resistance exercise counters post-exercise hyperglycaemia in type 1 diabetes'.

Mae'r myfyrwyr llwyddiannus yn ennill gwobr o £100 a thystysgrif cyflawniad, ac maent yn gymwys ar gyfer aelodaeth o'r Gymdeithas am flwyddyn. Mae manteision aelodaeth yn cynnwys grantiau ar gyfer teithio; mynychu cyfarfodydd a phrosiectau ymestyn allan; mynediad ar-lein am ddim i gyfnodolion Y Gymdeithas a chyfnodolyn y Gymdeithas Ffisioleg Americanaidd, 'Physiology'; ffioedd gostyngol ar gyfer digwyddiadau'r Gymdeithas, gan gynnwys ein prif gyfarfod blynyddol, sy'n un o'r cyfarfodydd rhyngwladol mwyaf ym maes ffisioleg; llawer o gyfleoedd rhwydweithio; a hyfforddiant.

Llun: Dr Richard Bracken yn cyflwyno tystysgrif y Wobr Israddedig i Stephanie.