Llwyddiant dwbl i fyfyrwyr AABO yng Ngwobrau Dysgwyr Abertawe 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae oedolion sy’n astudio gydag Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO) Prifysgol Aberatwe wedi cipio dau wobr yng Ngwobrau Dysgwyr Abertawe 2014.

Enwyd myfyriwr BA Gradd y Dyniaethau, Stepheni Kays, 40 oed, o Ravenhill, fel enillydd Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn.

Yn ogystal, enwyd grŵp o fyfyrwyr sy’n astudio Rhaglen Baratoi ar gyfer Gradd BA yn y Dyniaethau yn Clase, fel enillwyr y categori am y Grŵp Dysgu Cymunedol gorau.

Cynhaliodd Gŵyl Grŵp Dysgu Abertawe y Gwobrau Dysgwyr Abertawe 2014 yn Theatr y Grand, Abertawe, ar nos Fawrth, 17 Mehefin. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgwyr a thiwtoriaid  ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion a’u hymrwymiad i ddysgu.

Stepheni Kays Symudodd Stepheni Kays (chwith) i fyw yng Nghymru yn 2008, wedi iddi adael ei mamwlad o dan amgylchiadau anodd, gan adael ei phlant a’i gŵr ar ei hôl. Wedi iddi symud i fyw yn Abertawe, roedd Stepheni yn benderfynol o fanteisio ar y cyfleoedd oedd ar gael mewn gwlad enwyd, ac fe cychwynodd ar ei hastudiaethau.

Dechreuodd Stepheni astudio ar gyfer Tystysgrif Sylfaen mewn Dyniaethau yng Nghanolfan Adnoddau Ar Waith, Blaenymaes, Abertawe. Enillodd Stepheni rhagoriaeth am ei hastudiaethau.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, roedd Stepheni yn benderfynol o barhau a’i hastudiaethau, a chofrestrodd hi ar gwrs rhan-amser BA Gradd y Dyniaethau AABO lle fuodd hi’n astudio pynciau megis hanes, seicoleg a chymdeithaseg mewn canolfannau cymunedol yn ardal Abertawe.

Meddai Vanessa Thomas, Swyddog Datblygu Cymunedol AABO: "Mae Stepheni yn fyfyriwr ysbrydoledig a hynod alluog sydd ar y trywydd iawn i gyflawni dosbarth gradd dda iawn. Mae’n fraint i gael Stepheni yn fyfyriwr gyda AABO".

Yn ogystal â'i hastudiaethau, mae Stepheni yn fam i bump o blant, ac yn gweithio rhan-amser yn fferfyllfa Boots. Mae agwedd bositif Stepheni yn amlwg wedi dylanwadu ar eith theulu gan fod ei phlentyn hynaf yn astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith, ac un arall yn cychwyn astudio gradd drama ym mis Medi. Ers iddo symud i fyw gyda Stepheni a’u plant, mae gŵr Stepheni bellach yn astudio ar Raglen Baratoi ar gyfer Gradd BA yn y Dyniaethau AABO.

Meddai Stepheni, "Mae staff AABO yn gefnogol iawn ac yn gwneud dysgu'n ddiddorol iawn. Mae dysgu wedi fy helpu i esblygu ac ennill y gred fy mod yn gallu cyflawni cymaint mwy, ac mae wedi fy helpu i ddod o hyd i fy ngalwedigaeth a llwybr gyrfaol. Rwyf yn benderfynol o barhau gyda fy astudiaethau ac ennill y cymhwyster uchaf posibl. Yr wyf yn ymdrechu i weithio ar raddfa ryngwladol i helpu'r bregus a’r dan-breintiedig. Os gallaf lwyddo i wneud hyn gyda fy nghefndir i, yna gall unrhyw un!".

Enwebwyd Hannah Collins, myfyriwr sy’n astudio  Gradd Rhan-amser AABO, a thiwtoriaid rhan-amser BA Gradd y Dyniaethau, Carole Butler a Dr Rhian Worth, ar gyfer Gwobrau Dysgwr a Thiwtor NIACE Dysgu Cymru a Gwobrau Tiwtor. Dyfarnwyd  tystysgrifau llwyddiant iddynt.

Meddai’r Athro Colin Trotman, Cyfarwyddwr AABO ym Mhrifysgol Abertawe: "Rwy'n falch iawn bod myfyrwyr a thiwtoriaid AABO wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hastudiaethau a'u hymrwymiad i addysgu yn y gymuned. Mae eu straeon yn ysbrydoledig ac maent i'w llongyfarch ar ennill y gwobrau hyn. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol".