Lleoliad gwaith yn arwain at swydd ddelfrydol i fyfyriwr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Kate Ellis, myfyriwr graddedig mewn Saesneg Iaith o Brifysgol Abertawe, yn brawf bod profiad gwaith yn arwain at lwyddiant gyrfaol, ar ôl ennill ei swydd ddelfrydol fel Golygydd gydag un o gyhoeddwyr mwyaf y byd.

Dychwelodd Kate i Gymru yn 2012 ar ôl gweithio i gyhoeddwr yn Athens, Groeg am 18 mis. Yn benderfynol o gael profiad yn y grefft (ffuglen) i ehangu ei gwybodaeth gyhoeddi, daeth o hyd i gynllun lleoliad gwaith GO Wales a sicrhau cyfnod o 10 wythnos gyda Parthian Books yn Abertawe, fel Cynorthwyydd Strategaeth Golygu ac E-fasnach.

Kate EllisDywedodd Kate: “Dysgais cymaint yn ystod y lleoliad gwaith; gan fod Parthian yn gwmni mor fach, cefais brofiad ym mhob agwedd ar gyhoeddi a’r broses gyhoeddi, sy’n brin iawn. Rwy’n ffodus dros ben fy mod i wedi dechrau fy ngyrfa gyda chwmni bach, annibynnol. Rhoddwyd llawer o gyfrifoldeb i mi a llwyddais i gael profiad mewn llawer o feysydd: golygu, marchnata, cyhoeddi, gwerthu a chynhyrchu.”

“Ni fyddech yn cael y profiad hwn gyda chwmnïau mwy o faint. Nid yn unig ei fod wedi fy ngwneud i’n fwy cyflogadwy, ond yn sgil cwblhau tasgau ym mhob maes, mae’r profiad wedi fy helpu i ddarganfod beth rwy’n dda yn ei gyflawni ac ym mha faes yr oeddwn i eisiau gweithio ynddo.”

Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 64% o raddedigion yn cael eu cyflogi gan y cwmni ar ôl Lleoliad Gwaith 10 wythnos GO Wales. Mae’r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop wedi bod o fudd i filoedd o fyfyrwyr a graddedigion yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf. 

Dywedodd Kate hefyd: “Bûm yn gweithio i Parthian am naw mis i gyd, a oedd yn estyniad ar fy lleoliad gwaith. Rwyf bellach yn gweithio fel golygydd i un o gyhoeddwyr mwyaf y byd, HarperCollinsPublishers. Heb y cyfle i weithio i Parthian, ni fyddai fy ngwybodaeth a’m gallu wedi bod yn ddigon da i HarperCollins.”

“Rwy’n teimlo’n ffodus dros ben fy mod i wedi cael y cyfle i weithio i Parthian. Fe wnes i deithio ar draws Cymru a’r DU, yn mynychu cynadleddau, gwyliau llyfrau a digwyddiadau llyfrau. Roedd gen i fy awduron fy hun yr oeddwn yn gofalu amdanynt a fy mhrosiectau fy hun, ac oherwydd hyn, nid oeddwn i byth yn teimlo fel aelod o staff dros dro. Byddaf yn ddiolchgar am byth i Parthian a GO Wales am roi dechrau mor wych i mi.”

Gall myfyrwyr a graddedigion fynd i www.gowales.co.uk i weld a gwneud cais am leoliadau gwaith.