HP yn cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe i adeiladu dinasoedd cynaliadwy

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y rhaglen tair blynedd yn defnyddio technoleg i archwilio’r datblygiad o greu campysau clyfar, diogel.

Cyhoeddodd HP heddiw y bydd y bartneriaeth tair blynedd gyda Phrifysgol Abertawe yn archwilio’r datblygiad o ddinasoedd, cymunedau a champysau sy’n defnyddio technoleg HP.

Gan fanteisio ar dechnoleg synhwyrydd rheoli data a adeiladwyd yn labordai HP a HP Smart Solutions Grid ar gyfer gweddnewid seilwaith isadeiledd, bydd y prosiect yn defnyddio technoleg megis mesuryddion smart, dinasoedd deallus, ymwybyddiaeth sefyllfa, a data dadansoddol.

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol o safon fyd-eang sydd bellach yn cynnig oddeutu 350 o gyrsiau israddedig a 100 o gyrsiau ôl-raddedig i 14,500 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Erbyn Medi 2015 bydd gan y Brifysgol gampws 65 erw newydd yn y Bae i ategu Campws Parc Singleton ar ei newydd wedd. 

Meddai’r Athro Javier Bonet, pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a chyfarwyddwr strategol y rhaglen: “Mae gweithio gyda mentrau byd-eang fel HP, yn ogystal ag academia a busnesau lleol bach a chanolig yn rhan sylfaenol o sicrhau cymuned gynaliadwy”.

"Bydd y rhaglen hon yn cynnig manteision economaidd uniongyrchol i Gymru o ran creu gwybodaeth, ac arloesed, yn ogystal â datblygu gweithlu tra medrus."

Bydd rhan gyntaf y prosiect yn mynd ati i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd at 80% cyn 2050.

Wrth fanteisio ar brofiad HP o’i feysydd profi ei hun mewn Labordai HP yn Palo Alto, yn ogystal â chaledwedd a meddalwedd HP, sefydlir maes profi i archwilio’r integreiddiad uchaf posibl o fesuryddion deallus, technolegau grid deallus, synwyryddion diwifr pŵer isel iawn, diogelwch seiber a meddalwedd rheoli adnoddau i gefnogi newidiadau radical mewn darparu a defnyddio ynni sydd eu hangen i gyrraedd y nod hon. Yn y pen draw, bydd hyn yn cyfrannu at greu amgylchedd parhaol ar gyfer datblygu’r genhedlaeth nesaf o gynnyrch a gwasanaethau economi ddigidol.

Bydd y cysyniad gwreiddiol ar gampws presennol Prifysgol Abertawe yn datblygu i Gampws y Bae, prosiect gwerth £450 miliwn sy’n un o brosiectau economi wybodaeth fwyaf gwledydd Prydain ac sydd ymhlith y pump mwyaf yn Ewrop*. Bydd y gwaith adeiladu yn unig yn cynhyrchu tua 4,000 o swyddi uniongyrchol, yn ogystal â swyddi anuniongyrchol. Gyda rhan gyntaf y campws yn anelu i fod yn gwbl weithredol erbyn mis Medi 2015, bydd y campws yn cael ei ddefnyddio gan oddeutu 5,000 o fyfyrwyr a hyd at 900 o staff, gyda chyfleusterau ar gyfer busnesau newydd.

“Rydym yn credu ers tro y bydd dyfodol ein dinasoedd yn galw am yr angen i weithredu ar gyffordd pobl, y blaned, elw a data-peta” meddai Chandrakant Patel, Uwch Gymrawd a Phrif Beiriannydd, Labordai HP. “Dengys y rhaglen hon gam arall ar ein taith at reoli adnoddau ar raddfa ddinesig.”


Gwybodaeth am HP: 

Mae HP yn creu posibiliadau newydd ar gyfer technoleg sydd yn cael effaith ystyrlon ar bobl, busnesau, llywodraethau a’r gymdeithas. Gyda'r portffolio technoleg fwyaf, sy’n cwmpasu argraffu, systemau personol, meddalwedd, gwasanaethau a seilwaith TG, mae HP yn darparu datrysiadau i rai o heriau mwyaf cymhleth cwsmeriaid ym mhob cwr o’r byd. Ceir wybodaeth bellach am HP (NYSE: HPQ) yma: http://www.hp.com.