Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson fawreddog wedi pum mlynedd i Athro

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Matt Jones o Brifysgol Abertawe ymhlith 21 o dderbynwyr yn rownd ddiweddaraf y Wobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson fawreddog, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener, 31 Ionawr) gan y Gymdeithas Frenhinol, yr academi wyddoniaeth genedlaethol.

Professor Matt JonesNod y gwobrau, a ariennir ar y cyd gan Sefydliad Wolfson a'r Adran Busnes, Arloesi, a Sgiliau (BIS), yw rhoi cymorth ychwanegol i brifysgolion i'w galluogi i ddenu gwyddonwyr dawnus o dramor a chadw gwyddonwyr uchel eu parch o'r DU sydd â doniau a photensial eithriadol.

Mae'r Athro Jones, Pennaeth Adran Gyfrifiadureg Coleg Gwyddoniaeth y Brifysgol, wedi derbyn y wobr fel platfform i waith a ysgogwyd gan ei awydd i ddeall a datrys cyfres o broblemau dynol-technolegol cymhleth o ddiddordeb mawr i'r gymuned ymchwil ryngwladol gyda'r nod o wella bywyd i gannoedd o filiynau o bobl yn y byd datblygol.

Wrth amlinellu cefndir y prosiect pum mlynedd, Information interaction for "bottom of the pyramid" users in developing regions, meddai'r Athro Jones, "Mae cannoedd o filiynau o bobl, mewn rhanbarthau megis India, Tsieina a De America, yn cael eu blas cyntaf ar gyfrifiadura a rhyngweithio gwybodaeth drwy ddyfeisiau symudol. Mae llawer wedi'i ysgrifennu am faint o bŵer bydd y dyfeisiau hyn yn ei roi i'r cymunedau hyn, gan ddarparu mynediad i addysg, bancio, gofal iechyd a mwy.

"Fodd bynnag, mae problem i'r weledigaeth hon. Mae'r rhan fwyaf o ffonau symudol wedi'u cynllunio o safbwynt y 'byd cyntaf': i bobl sy'n weddol gefnog ac sydd eisoes yn gallu defnyddio adnoddau megis addysg, isadeiledd, pŵer grid a chysylltedd rhyngrwyd hollbresennol. 

"Mae fy ngwaith yn mynd i'r afael â sefyllfa pobl y dywedir eu bod 'ar waelod y pyramid'."

Eglura'r Athro Jones bod gan y grwpiau hyn o bobl lefel is o lythrennedd, gan ei gwneud hi'n anodd iddynt ddefnyddio gwybodaeth ysgrifenedig ar sgriniau cyffwrdd, er enghraifft. Yn aml mae lled band cyfyngedig iawn ganddynt, neu gysylltiadau sydd heb fod ar gael yn aml, ac nid oes trydan grid ganddynt am gyfnodau hir yn ystod y dydd pan fo'r pŵer wedi'i ddiffodd.

Fel ymchwilydd rhyngweithio dynol-cyfrifiadurol, angerdd yr Athro Jones bob amser yw archwilio technolegau cyfrifiadurol sy'n gallu ffitio i fywydau pobl yn effeithiol.

Drwy nifer o brosiectau diweddar mewn llefydd megis Affrica a chefn gwlad India, mae ei dîm wedi dysgu llawer am ffordd o fyw sy'n wahanol iawn i ni.

Gan ddefnyddio'i brofiadau hyd yma, mae'r Athro Jones nawr yn dechrau prosiect uchelgeisiol a fydd yn datblygu ac yn profi amrywiaeth o ryngwynebau defnyddwyr, algorithmau cyfrifiaduron a dyfeisiau arloesol gyda'r nod o drawsnewid sut mae cymunedau'n creu, yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth drwy ddyfeisiau symudol.

Ychwanegodd yr Athro Jones, sy'n gweithio gyda Labordy Technolegau Rhyngweithio'r Dyfodol y Brifysgol (Labordy FIT), "Mewn gwaith ymchwil, mae amseru yn hanfodol, a dyma'r amser cywir i ddechrau'r rhaglen rydym ni'n ei chynnig.

"Ar hyn o bryd mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y rhanbarthau rydym yn canolbwyntio arnynt ffonau arferol, hynny yw, nid ffonau clyfar.  Fodd bynnag, o fewn pump i ddeng mlynedd mae dadansoddwyr yn disgwyl y bydd cyfran sylweddol o boblogaeth y byd yn gallu defnyddio dyfeisiau soffistigedig.

"Ar yr un pryd, mae datblygiadau eraill mewn cyfrifiadura hollbresennol cadarn a rhad y gellir ei ddefnyddio'n eang, hynny yw, cyfrifiadura sy'n rhan o ffabrig ein byd ffisegol, yn gwneud isadeiledd gwybodaeth y gellir ei ddefnyddio ar y cyd â'r ffonau symudol hyn yn bosib. 

"Wrth astudio cyd-destunau heriol iawn, mae'n bosib gwneud darganfyddiadau y gellir eu cymhwyso i boblogaethau eraill, yn fyd-eang. Felly, i lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy, oherwydd y sgiliau darllen ac ysgrifennu gwaeth, nid sgrîn gyffwrdd yw'r ffordd orau o gyfathrebu â'r ddyfais bob amser.

"Bydd angen i ni arloesi o ran rhyngwynebau lleferydd ac ystumiau, er enghraifft, megis pwyntio'r ffôn symudol at wrthrych i ddynodi term i chwilio amdano. Wrth wneud hyn, disgwyliwn hefyd ddod o hyd i ffyrdd gwell i bobl ledled y byd ryngweithio â gwybodaeth a gwasanaethau.

"Efallai y bydd y dulliau newydd hyn yn helpu pobl ym mhob man i symud i ffwrdd o gadw'ch pen i lawr a phrocio sgrîn gyffwrdd, fel y gwelir ar drenau tiwb, mewn siopau coffi ac wrth i bobl gerdded o gwmpas y dref, yn anymwybodol o fywyd o'u cwmpas."