Gweithdai am 'apps' gofal iechyd i amlygu cyfleoedd ac ysgogi arloesi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir dau weithdy am ddim ym Mhrifysgol Abertawe y mis nesaf, fydd yn trafod y farchnad am apps gofal iechyd - marchnad a allai fod yn enillfawr. Byddant yn gyfle unigryw i ddatblygwyr meddalwedd, clinigwyr, myfyrwyr, ymchwilwyr, ac academyddion gydweithio i greu systemau digidol arloesol newydd.

Cynhelir y gweithdai ddydd Mawrth 11 Chwefror a dydd Mawrth 18 Chwefror.  Fe'u trefnir gan Ganolfan Cymru'r Ddeorfa Rithwir Genedlaethol yng Nghanolfan Arloesi Diwydiannau E-iechyd (ehi²) y Brifysgol, a Chynghrair Meddalwedd Cymru a arweinir gan Brifysgol Abertawe.

Bydd ‘Cyflwyniad i apps Gofal Iechyd’ ddydd Mawrth 11 Chwefror yn fewnwelediad defnyddiol i'r farchnad.  Mae'r siaradwyr allweddol yn cynnwys Bruce Hellman o UMotif, cwmni arobryn sy'n datblygu apps iechyd, a Huw Morgan o GPCSL, cwmni o Gymru.  Byddant yn trafod cyfleoedd a heriau datblygu apps gofal iechyd, yn rhannu cyngor a chyfarwyddyd ymarferol ar ddatblygu apps, ac yn trafod sut i gael mynediad i farchnad y GIG.

Meddai'r Athro David Ford, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arloesi Diwydiannau E-iechyd ym Mhrifysgol Abertawe:  "Ar lefel fyd-eang, mae apps gofal iechyd yn farchnad newydd gyffrous. I weithwyr meddygol proffesiynol a datblygwyr technegol, fel ei gilydd, mae cyfle enfawr o'n blaenau.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych i ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, datblygwyr meddalwedd, ac academyddion at ei gilydd i gydweithio.  Mae potensial i greu apps arloesol iawn a allai helpu i wella gofal iechyd a'r ffordd y darperir gofal iechyd."

Ddydd Mawrth, 18 Chwefror, caiff datblygwyr a chlinigwyr gyfle i arbrofi, i arloesi, ac i greu prototeipiau o'u apps gofal iechyd eu hunain mewn gweithdy ymarferol diwrnod llawn.

Meddai'r Athro Chris Price o Brifysgol Aberystwyth a Chynghrair Meddalwedd Cymru, fydd yn hwyluso'r gweithdy apps gofal iechyd: "Eisoes mae Cynghrair Meddalwedd Cymru wedi hyfforddi cannoedd o bobl ym maes meddalwedd yng Nghymru yn y ffyrdd gorau o adeiladu cymwysiadau symudol.

"Mae gofal iechyd yn un o'r meysydd mwyaf llwyddiannus ar gyfer cymorth symudol, boed i weithwyr proffesiynol neu i gleifion, ac mae'r galw am ddatblygwyr meddalwedd hyfedr yn y maes hwn yn parhau i gynyddu.

Mae apps symudol ar gyfer ffonau clyfar a thabledi'n newid y ffordd y mae gweithwyr gofal iechyd a chleifion yn ystyried gofal iechyd.

Dyluniwyd llawer o apps at ddefnydd meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill.  Maent yn cynnwys pethau megis basau data am gyffuriau a chlefydau, a monitro pwysau gwaed neu lefel glwcos.

Mae apps eraill yn casglu data fel ffordd hawdd i'r claf fonitro ei gyflwr a'i driniaeth - gall pobl â diabetes fonitro lefel y siwgr yn eu gwaed trwy eu ffonau clyfar; hefyd, mae apps ar gael i fonitro diet, beichiogrwydd a'r ffordd y rheolir poen.

Meddai Huw Morgan, Cyfarwyddwr Technegol GPC Solutions a siaradwr gwadd yn y gweithdy Cyflwyniad i Apps Gofal Iechyd: "Bydd y gweithdy'n gyfle i ni rannu ein profiad - a'n gwybodaeth o ddarparu apps arloesol yn y maes hwn - gyda datblygwyr, arloeswyr, a gweithwyr gofal iechyd.