Dylanwad 100: Athro’r Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn arwain perfformiad Dylan ar Daith ledled Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y darlithydd a cherddor jazz, yr Athro Daniel G. Williams, yn arwain perfformiad Dylan ar Daith ym mhrifysgolion Cymru o 26 Chwefror i 27 Mawrth fel rhan o brosiect Dylanwad 100 i nodi canmlwyddiant Dylan Thomas. Bydd perfformiad yn Taliesin 28 chwefror.

Mae Dylan ar Daith yn berfformiad sy’n cyfuno darlith gyda barddoniaeth, cerddoriaeth jazz a hip hop, wrth olrhain dylanwad y Cymro ar ddiwylliant America yn y cyfnod wedi ei farwolaeth yn 1953. Tra bod y ddarlith yn Saesneg, mae’r sioe yn cynnwys sawl perfformiad yn Gymraeg, a chlywir cerdd yn y Llydaweg hefyd yn ystod y perfformiad.

Teithiodd Dylan Thomas i’r Unol Dalaethau bedair gwaith yn ystod y 1950au cynnar, cyfnod pan oedd Efrog Newydd yn dyst i chwyldro cerddorol, gyda cherddorion megis Charlie Parker, Dizzy Gillesie, Tad Dameron ac eraill yn ffurfio steil newydd o gerddoriaeth, sef Bebop. Bu i sawl sylwebydd gymharu darlleniadau bywiog a grymus Thomas gyda’r gerddoriaeth newydd, ac mae’r sioe yn ail-greu’r cysylltiad annisgwyl yma.

Bydd yr Athro Daniel  G. Williams, sydd hefyd yn sacsoffonydd yn y band jazz-gwerin Burum, yn tywys y gynulleidfa drwy’r perfformiad, ac yn cynnig ei ddehongliad academaidd o ddylanwad sylweddol Dylan ar ddiwylliant America.

Dylan Live bandLlun:  Dylan Live, gyda'r Athro Williams ar y chwith.

Meddai Daniel G. Williams:

“Mae’r perfformiad wedi’i seilio ar ymchwil a wnaed ar y cyfnod treuliodd Dylan Thomas yn yr Unol Dalaethau, ac yn ffocysu ar sut dylanwadodd Dylan ar ddiwylliant America, yn enwedig ar feirdd Affro-Americanaidd."

“Daw’r sioe yn fyw drwy berfformiadau rap, a cherddoriaeth jazz, a bydd ffilm newydd gan Ewan Morris Jones yn darparu elfen weledol hyfryd i’r sioe.”

Dylan Live logoBydd y perfformiad awr o hyd yn cynnwys rhai o feirdd a cherddorion gorau Cymru, gan gynnwys y beirdd, Martin Daws, Aneirin Karadog a Zaru Jonson, y cerddor jazz Huw V Williams, a’r artist hip-hop Ed Holden, pob un ohonynt wedi cael eu dylanwadu gan Dylan mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

 

Bydd y Dylan ar Daith yn ymweld â’r lleoliadau canlynol:

7.30pm 27 Chwefror, 2014 – Cliff Tucker, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llambed
1.30pm 28 Chwefror, 2014 – Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
7.30 pm 28 Chwefror, 2014 – Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin
24 Mawrth 2014 – Canolfan Catrin Finch, Wrecsam
25 Mawrth 2014 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
26 Mawrth  2014 – Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth
27 Mawrth, 2014 – Myfyrwyr Undeb Casnewydd

  • Mae tocynnau’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr, neu £5 fel arall.
  • Am docynnau, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru drwy ffonio 029 2047 2266 neu drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org