Diwrnod Ewrop 2014 - Dechreuadau o'r Newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae 2014 yn dathlu conglfaen cyffrous yn natblygiad Prifysgol Abertawe. Ar y 9fed o Fai bydd y Brifysgol yn chwifio Baner yr Undeb Ewropeaidd i ddathlu Diwrnod Ewrop a'r undod a'r integreiddiad a gyflawnwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd y dechreuadau newydd yn Abertawe a gafodd eu galluogi trwy gydweithrediadau a chyllid Ewropeaidd.

Trwy gymorth gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen yn awyddus at agoriad y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd yn 2015 ar Ffordd Fabian, y cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ato fel “prosiect cyffrous i Abertawe ac i Gymru”.

EU flagMeddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Fel sefydliad a arweinir gan ymchwil, bu Prifysgol Abertawe'n dilyn polisïau "Cyfeiriadau Strategol" radicalaidd ac uchelgeisiol a ddyluniwyd i gyflymu datblygiad y Brifysgol ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni rhagoriaeth a llwyddiant mewn amgylchedd byd-eang sy'n newid yn gyflym ac sy'n dod yn fwyfwy cystadleuol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu’r arian sylweddol a dderbyniwyd gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru ac mae'n falch o lwyddiant profedig y prosiectau hyn wrth greu swyddi gwerthfawr a thra medrus ac, yr un mor bwysig, wrth ddenu buddsoddiad pellach i mewn i ardal dde-orllewin Cymru i helpu wrth yrru'r economi wybodaeth yn ei blaen.

Cydnabuwyd ers blynyddoedd llawer mai'r rhwystr mwyaf i ddatblygu Prifysgol Abertawe oedd campws Singleton tirgloëdig a fyddai’n rhy fach i ddiwallu holl anghenion prifysgol fodern gwbl effeithiol. Bellach, mae gennym ni ymateb syfrdanol i'r her honno - sef campws deuol.

Mae gwaith adeiladu bellach ar waith ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd gwerth £450M a fydd ar agor erbyn 2015, a sicrhawyd drwy fuddsoddiad o £60m gan Fanc Fuddsoddi Ewrop, y buddsoddiad cyntaf gan Fanc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru, ar gyfer un o'r prosiectau economi wybodaeth mwyaf yn Ewrop.

Mae'r Brifysgol wedi gwneud cynnydd enfawr dros y ddeng mlynedd diwethaf ac rwyf yn llawn edmygedd o’r hyn y mae cydweithwyr wedi'i gyflawni."

Mae 2014 hefyd yn gweld dechrau ystod amrywiol o raglenni cyllid Ewropeaidd newydd, ar gyfer y cyfnod 7 mlynedd o 2014 hyd at 2020. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yng Nghymru - €366.8 biliwn, (wedi'i hanelu at greu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd yng Nghymru);
  • Horizon2020 - €80biliwn, (rhaglen ymchwil ac arloesi wedi'i chyfoethogi sy'n cymryd lle Fframwaith 7),
  • Erasmus Plus - €14.7 biliwn, (yn darparu cyfleoedd hyfforddi, symudedd a chydweithio);
  • Ewrop Creadigol - €1.46 biliwn, sy'n uno'r rhaglenni ariannu blaenorol ar gyfer y Cyfryngau a Diwylliant. 

Gyda'i gilydd mae'r mentrau ariannu hyn yn cynnig dros €462.96 biliwn ar gyfer datblygu economaidd, ymchwil, arloesi, symudedd a hyfforddiant ac mae Prifysgol Abertawe'n awyddus iawn i gael mynediad atynt er lles yr economïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd Diwrnod Ewrop hefyd yn gyfle i Brifysgol Abertawe gydnabod ei llwyddiannau eang yn y rhaglenni ariannu blaenorol, gan gynnwys:-

•    Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), dros £44 miliwn, ar draws ystod o brosiectau datblygu economaidd a gallu, gan gynnwys y prosiectau - Y Ganolfan Nanoiechyd, Y Sefydliad Gwyddorau Bywyd 1 a 2, ASTUTE, SOLCER, Y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel, WISE2, Cyfrifiadura Pŵer Uchel Cymru ac EMC.
•    Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), buddsoddiad gwerth £29 miliwn ar gyfer prosiectau datblygu sgiliau - Cynghrair Meddalwedd Cymru, Arweinyddiaeth Cymru, Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth, Mynediad at Raddau Meistr, Dysgu'n Seiliedig ar Waith, Gradd Sylfaen, Technocamps, Go Wales
•    Interreg - Cyllid gwerth £4miliwn ar gyfer cydweithredu rhyngranbarthol yn yr UE i hyrwyddo datblygiad economaidd integredig yng Nghymru a rhanbarthau eraill yn yr UE – Cynghrair NanoIechyd Celtaidd, WIN-IPT, ECOJEL, SUSFISH, IMPACT, ENALGAE.
•    7fed Rhaglen Fframwaith (FP7), mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £13miliwn trwy geisiadau cystadleuol, i arwain ar 6 phrosiect a chydweithio ar 35 o brosiectau eraill.
•    Rhaglen Dysgu Gydol Oes – Mae Abertawe wedi cymryd rhan mewn 10 o brosiectau gan gynnwys 7 rhaglen symudedd myfyrwyr a staff Erasmus (cyllid gwerth €3.3 miliwn), a 2 Raglen Meistr Ryngwladol Erasmus Mundus fawreddog iawn a chyllid Tempus.

Mae mentrau Ewropeaidd eraill sydd wedi'u cefnogi gan yr UE yn cynnwys Rhwydwaith Menter Ewrop, sy'n cynorthwyo busnesau bach lleol i wneud y gorau o'r farchnad Ewropeaidd.