Digwyddiadau Brecwast - Arwain Twf Busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen datblygu arweinyddiaeth broffesiynol, a ddyluniwyd i wella sgiliau arweinyddiaeth arweinwyr a pherchen-reolwyr busnesau bach a chanolig, yn cynnal dau ddigwyddiad rhagolwg am ddim ddydd Mercher 5 Mawrth a dydd Mercher 19 Mawrth rhwng 7.30 a 9.30am yng Nghanolfan Waterton ym Mhen-y-bont ar Ogwr CF31 3WT.

LEAD WalesBydd y digwyddiadau'n canolbwyntio ar sut mae rhaglen LEAD Cymru Prifysgol Abertawe wedi helpu busnesau ar draws Cymru i gynyddu eu trosiant o 26% y flwyddyn ar gyfartaledd.

Dywedodd Steve Edmunds, Rheolwr Gyfarwyddwr Cottam & Brookes Engineering Worldwide, a raddiodd o'r rhaglen yn ddiweddar: "Roedd angen i mi gamu'n ôl o'r busnes. Nid oes llawer o bobl y gallwch drafod eich cwmni gyda nhw yn gyfrinachol yn gyffredinol, ond gyda LEAD Cymru cewch wneud hynny. Mae wedi fy ngalluogi i newid fy ffordd o feddwl, yn ogystal â fy ffordd o weithio."

Dywedodd Gary Walpole, Rheolwr Prosiect LEAD Cymru: "Byddwn yn annog busnesau ar draws De-orllewin Cymru i fanteisio ar ein digwyddiadau rhagolwg i weld sut y gall ein rhaglen fod o fantais i'w busnesau. Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgu, o lygad y ffynnon, sut y gall gwella sgiliau arweinyddiaeth wella perfformiad busnes."

Digwyddiad Rhagolwg

Mae'r Digwyddiadau Rhagolwg yn RHAD AC AM DDIM, ac maent yn disgrifio sut y gall neilltuo ond un awr y diwrnod i weithio ar eich busnes eich helpu i lwyddo'n well nag erioed o'r blaen.

Ble: Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3WT

Pris: YN RHAD AC AM DDIM

Dyddiad ac Amser: 5 Mawrth a 19 Mawrth 2014, 7.30 - 9.30am

Yn y digwyddiad, bydd cyfle i gwrdd â phobl sydd wedi dilyn y rhaglen yn y gorffennol a dysgu rhagor am y rhaglen, a ariennir yn llawn.

 LEAD Cymru

Mae'r rhaglen yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth a ariennir yn llawn ac a ddyluniwyd i ddatblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth y rhai sy'n arwain Busnesau Bach a Chanolig, perchen-reolwyr, a chyfarwyddwyr o fewn Ardal Gydgyfeirio Cymru.

Cefnogir y rhaglen, gwerth £8 miliwn, gan Lywodraeth Cymru.  Cyflwynir y rhaglen gan Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe ac Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, ac mae'r cyllid yn cynnwys £5 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. 

Pwy sy'n gymwys

  • Arweinwyr a pherchennog-reolwyr cwmnïau neu fentrau cymdeithasol
  • Lleolir y fenter o fewn Ardal Gydgyfeirio Cymru
  • Mae'r busnes wedi bod yn masnachu ers o leiaf dwy flynedd

Mae'r busnes yn cyflogi o leiaf 4 aelod o staff