Cylchgrawn Planet Earth, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol - Ymchwil yr Athro Tariq Butt

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhifyn diweddaraf Planet Earth, cylchgrawn chwarterol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn amlygu gwaith ymchwil yr Athro Tariq Butt o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.

tariq and team in labMewn erthygl dan y pennawd ‘Mycology against Malaria’ mae Tom Marshall yn pwysleisio’r effaith ofnadwy mae clefydau a gludir gan bryfed yn ei gael ar ran helaeth o’r byd, a’r ffaith eu bod nhw’n ymddangos mewn llefydd newydd.

Mae’r erthygl yn disgrifio sut mae’r Athro Tariq Butt, arbenigwr blaenllaw ar ffyngau entomopathogenig (lladd pryfed) – yn arbennig y Metarhizium anisopliae, neu’r ffwng muscardine gwyrdd – yn gweithio ar sawl prosiect sy’n ceisio datblygu technegau newydd a fydd yn helpu i ymladd yn erbyn clefydau a gludir gan bryfed mewn tiriogaethau newydd ac mewn rhanbarthau sydd wedi dioddef ers sawl mileniwm.

Yr Athro Butt yw arweinydd y grŵp Bioreolaeth a Chynnyrch Naturiol (BANP) yn Adran Biowyddorau y Coleg Gwyddoniaeth.

Darllenwch yr erthygl, Mycology against Malaria, ar dudalennau 18-20 rhifyn yr haf Planet Earth yma  http://www.nerc.ac.uk/latest/publications/planetearth/archive/planet-earth-sum14.pdf.