Cyfrifiadureg ar Waith - Ffair Arddangos Prosiectau Myfyrwyr 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwahoddir i gyflogwyr sy'n ystyried recriwtio graddedigion gyda sgiliau TG arbenigol fynychu'r ‘Ffair Brosiect’ flynyddol; lle bydd oddeutu un cant o fyfyrwyr cyfrifiadureg yn rhoi arddangosiadau byw a chyflwyniadau poster i arddangos eu cyflawniadau yn ystod eu blwyddyn derfynol ar eu cwrs gradd i ôl-raddedigion neu gwrs gradd meistr.

Teitl: Cyfrifiadureg ar Waith - Ffair Arddangos Prosiectau Myfyrwyr 2014

Siaradwr: Dr Neal Harman, Cyfarwyddwr Prosiect, Cynghrair Meddalwedd Cymru a Phennaeth Addysgu, Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe.

Dyddiad: Dydd Iau 5ed Mehefin 2014

Amser: 5:30pm i 8pm

Lleoliad: TechHub Abertawe, 11 Stryd y Gwynt, Abertawe, SA1 1DP.

Mae'r 'Ffair Brosiect' yn darparu fforwm delfrydol i gyflogwyr recriwtio o gronfa talent cartref Prifysgol Abertawe gyda'r sgiliau TG lefel-uchel sy'n ofynnol i helpu busnesau i dyfu'n cynaliadwy mewn marchnad sydd yn gynyddol o gystadleuol.

Yn ystod y noson, bydd digon o gyfle i recriwtwyr gwrdd â'r darpar-raddedigion ac i drafod cwmpas a her eu prosiectau unigol - llawer ohonynt yn mynd i'r afael ag anghenion busnes 'bywyd go iawn'

Hefyd bydd mynychwyr yn cael cyfle i bleidleisio am y ‘Prosiect Gorau gan Fyfyriwr’; i gwrdd â'r cynrychiolwyr academaidd a diwydiant a oruchwyliodd gwaith y prosiect; ac, yn llawn mor bwysig, i rwydweithio gyda chwmnïau technegol, arloeswyr ac entrepreneuriaid o'r un meddwl.