Cyfres Darlithoedd Diwinyddiaeth Cyhoeddus ‘Disabled Church – Disabled Society’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Traddodir y ddarlith nesaf yng nghyfres darlithoedd diwinyddiaeth cyhoeddus Prifysgol Abertawe gan y Parchedig Dr John Gillibrand.

Reverend Dr John GillibrandSefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd, sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl y Ddarlith: Disabled Church – Disabled Society’

Siaradwr:Y Parchedig Dr John Gillibrand

Dyddiad: Dydd Llun 24 Mawrth 2013

Amser: 7.00pm

Lleoliad: Darlithfa James Callaghan

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Mae'r Parchedig Gillibrand yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, a rhoddwyd ei lyfr, 'Disabled Church - Disabled Society',ar restr ferGwobr Michael Ramsey ar gyfer Ysgrifennu Diwinyddol yn 2013. Yn y ddarlith hon, bydd yn trafod gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl ag anabledd a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.