Contractwr Campws y Bae yn helpu gyda sgiliau prentisiaid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Reussir Cyf., un o'r contractwyr bricwaith sy'n gweithio ar ddatblygu Campws y Bae Prifysgol Abertawe, wedi bod yn chwarae rôl bwysig drwy helpu i ddatblygu prentisiaid lleol

Y cwmni oedd un o'r cyntaf ar y safle i gefnogi lleoliad gwaith fel rhan o Gynllun Rhannu Prentisiaeth Cyfle, sy'n caniatáu i brentisiaid gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn drwy weithio gyda nifer o gyflogwyr i ennill y set sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn cymhwyso.

Wedi cael prentis sy'n rhan o gynllun Cyfle ar leoliad gwaith gyda nhw ar y safle, gwelodd y cwmni ei fod yn defnyddio rhai dulliau adeiladu nad oedd y prentis wedi'u dysgu yn y coleg.  Trefnwyd cyfarfod rhwng Reussir, Cyfle a Grŵp NPTC i drafod hyn, a oedd yn gysylltiedig â maes y cymhwyster.  O ganlyniad, helpodd rheolwr gyfarwyddwr Reussir, Roger Byrne, i fynd i'r afael â'r diffyg drwy roddi deunyddiau i alluogi addysgu rhai sgiliau penodol.

Meddai Roger, a enillodd 'Prentis y Flwyddyn' ei hun ym 1980 pan oedd yn gweithio i John Latings yn Llundain, "Rwy'n hynod angerddol am fy nghrefft ac rwy'n falch iawn o hyfforddi bricwyr y dyfodol."

Bay Campus June 2014Caiff mwy na miliwn o friciau eu defnyddio ar y safle, sy'n cael ei adeiladu gan St. Modwen, tirfeddiannwr a phartner datblygu Campws y Bae gwerth £450 miliwn.  Pe gosodir y rhain ben wrth ben, byddant yn ymestyn o ogledd i dde Cymru.  Byddai bricwaith yr adeiladau llety myfyrwyr yn unig yn llenwi pedwar cau pêl-droed.

Ni ddaeth cefnogaeth Reussir i ben gyda hynny.  Wrth ymweld â'r Coleg, dangoswyd peth gwaith a gwblhawyd gan fyfyriwr a oedd ar y cwrs Llwybrau at Brentisiaethau, Sam Shaw, i Roger.  Ar ôl gweld yr hyn yr oedd Sam yn gweithio arno, cynigiodd Roger brofiad gwaith iddo yn ystod hanner tymor y Coleg, gan roi cyfle i Sam ddysgu sgiliau a chael cyngor gan fricwyr profiadol ar y safle.  Bu'n brofiad mor gadarnhaol i Reussir a Sam, gofynnwyd iddo ddychwelyd i'r safle dros yr haf i sicrhau parhad ei ddatblygiad.  Mae Sam bellach wedi llwyddo ennill cyflogaeth gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle, y Cynllun Rhannu Prentisiaeth rhanbarthol, o fis Medi.

Meddai Roger am gynllun Cyfle, "Mae pob cwmni bricwaith mawr yn cael anhawster wrth gadw prentisiaid yn brysur a'u cadw ar y safle'n ddigon hir i gael budd go iawn o weithio a hyfforddi ar y safle.  Mae'r Cynllun Rhannu Prentisiaeth yn caniatáu i gyflogwyr fel ni i roi'r hyfforddiant angenrheidiol iddynt, sy'n fodd hyblyg o ddysgu.  Gyda'r dirwasgiad yn pasio a thwf yn dychwelyd i'r diwydiant adeiladu, credaf ei fod yn hanfodol i ni oll weithio gyda'n gilydd ar gyfer ein dyfodol.”

Mae cynllun Cyfle yn un yn unig o'r mentrau sy'n cael eu hyrwyddo i gontractwyr sy'n gweithio ar Gampws y Bae er mwyn eu hannog a'i wneud yn hawdd iddynt gynnig cyfleoedd i bobl leol ar y safle adeiladu mawr hwn.  Mae menter Gweithffyrdd yn cymryd rhan hefyd, sy'n canolbwyntio ar bobl yn dychwelyd i waith ar ôl cyfnod heb waith; Beyond Bricks and Mortar, sy'n edrych ar bob agwedd ar hyfforddiant a chyfleoedd gwaith newydd; a Phartneriaeth Bae Abertawe, sy'n archwilio cyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi leol ac yn cefnogi busnesau lleol i gyflwyno tendr am waith fel rhan o'r datblygiad.

Mae Reussir yn un o nifer o gontractwyr sy'n gweithio ar ddatblygiad Campws y Bae, sydd werth £450 miliwn, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r Tîm Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i bobl leol.  Ar ddiwedd mis Mehefin, roedd y cwmnïau hynny wedi darparu mwy na 1,200 wythnos o hyfforddiant neu brofiad gwaith i fwy na 60 o bobl.