Clwb ar ôl ysgol yn rhoi cyfle i blant ymarfer codio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae clwb codio ar ôl ysgol am ddim wedi agor ei ddrysau i bobl ifanc sydd ag awch am godio.

Technocamps child stock shotMae’r clwb, a gynhelir bob dydd Mawrth (4-6pm) ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei redeg gan raglen Technocamps, sydd eisoes wedi gweithio â thros 10,000 o ddisgyblion dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r clwb ar ôl ysgol ar agor i bobl ifanc o bob oedran, yn bennaf i blant 11 oed a throsodd ond mae croeso hefyd i ddisgyblion cynradd gymryd rhan gan fod y gweithgareddau’n cael eu teilwra i weddu i anghenion unigol.

Y canolbwynt fydd ar roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau codio mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth, gyda staff Cyfrifiadureg medrus. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o offer a ddefnyddir i ddatblygu eu dealltwriaeth o godio drwy amgylcheddau rhaglennu megis Scratch, Games Salad, Greenfoot, Python, App Inventor a meddalwedd LEGO Mindstorm.

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Rhaglen Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Roeddem am wneud yn siŵr bod pobl ifanc sydd eisoes â phrofiad o godio neu sydd ag awch i ddysgu, yn cael y cyfle i fynd â’u gwybodaeth cam ymhellach. 

‘Bu galw gan rieni ac athrawon i ddarparu’r cyfle hwn gan fod niferoedd cynyddol o ddisgyblion eisiau cael y cyfle i barhau i ddysgu’r sgil allweddol hwn, sy’n dechrau dod yn fwy amlwg ar gyfer swyddi yn y diwydiant technegol yn y dyfodol.’    

Meddai Hazel Israel sy’n fam i Will, disgybl blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Gŵyr sydd wedi mynychu’r clwb, ‘Roedd e wir wedi cyflawni rhywbeth. Diolch yn fawr i chi eto am sbarduno ei ddiddordeb – mae’n dwlu arno fe! Roeddwn i’n gwybod y byddai fe o achos yr holl bethau gwych a glywais am fenter Technocamps ac roedd y tu hwnt i’m disgwyl. Byddwn ni yno bob wythnos – cefais fy swyno gymaint â fe a doedd dim ots gan yr hwyluswyr fy mod i’n aros yno hefyd felly os yw’n iawn gyda nhw, byddaf yn dod hefyd a gweld os gallaf wneud peth codio fy hunan.

Roeddech yn iawn am yr hwyluswyr - maent mor groesawgar ac yn amyneddgar ac maen nhw’n rhoi llawer o sylw i chi. Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi fwyaf oedd eu brwdfrydedd – mae mor heintus. Llwyddon nhw i reoli disgwyliadau a lefelau profiad grŵp amrywiol iawn mewn ffordd fedrus iawn - dosbarth cyntaf.’

Os ydych yn dymuno fod eich plentyn, disgybl neu fyfyriwr yn mynychu’r clwb codio ar ôl ysgol, gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am sut i gofrestru lle ar ein gwefan http://www.technocamps.com/cy/events