Beth sy’n Digwydd? The Weeds You Walk On

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan y Bont ym Mhontarddulais.

Siaradwr: Alexandra Martin

Teitl y ddarlith: The Weeds You Walk On

Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Mai

Amser: 3:30pm-5:15 pm

Lleoliad: Canolfan Y Bont, 28 Heol Dulais, Pontarddulais, Abertawe SA4 8PA

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Yn y sgwrs hon bydd cyfle i ddarganfod fferyllfa natur a dysgu am briodweddau meddygol y chwyn a sathrwch arnynt wrth gerdded yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i'w hadnabod, eu cynaeafu a'u prosesu

Manylion cyswllt:  I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd lleoliad y ddarlith yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.