Athrawon i gael budd o raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cymru Ddigidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae contract gwerth £450,000 gan Lywodraeth Cymru a fydd yn uwchsgilio athrawon ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru mewn cyfrifiadureg wedi’i gadarnhau.

Mae Technocamps, a arweinir gan Brifysgol Abertawe bellach wedi ymuno â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Glyndŵr, a Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i ddarparu’r prosiect angenrheidiol hwn o’r wythnos nesaf ymlaen.

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau:

“Bydd technoleg ddigidol yn chwarae rôl fwyfwy amlwg ym mywydau pob un ohonom. Er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fod yn gwbl hyfedr mewn defnyddio’r dechnoleg newydd hon, mae’n bwysig bod eu hathrawon yr un mor gyffyrddus â hi. 

“Dyna pam ein bod yn falch o fod yn buddsoddi mewn prosiectau fel Technocamps, gan gynnig datblygiad proffesiynol parhaus a chan godi lefelau sgiliau – sef dwy o’n prif flaenoriaethau, i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o fuddion sydd gan dechnoleg ddigidol i’w chynnig. 

Bydd y prosiect yn uwchsgilio athrawon drwy ddarparu sesiwn flas i grŵp o’u disgyblion mewn amrywiaeth o dechnolegau gwahanol, gan gynnwys LEGO Mindstorms, Scratch a Python. Gwneir hyn drwy ddulliau addysgu ymarferol y bydd modd iddynt eu trosglwyddo i’r ystafell ddosbarth.

Ar ôl y sesiwn caiff yr athrawon eu hannog i wella eu sgiliau ymhellach drwy gofrestru ar gyfer hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus ychwanegol a ddarperir am ddim gan Technocamps yn un o’u canolfannau Prifysgol.

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Rwyf wrth fy modd bod y cyllid hwn wedi dwyn ffrwyth gan ganiatáu i Technocamps ehangu sgiliau arbenigol athrawon ar draws Cymru gyfan.

"Dros y pedair blynedd ddiwethaf, bu Technocamps yn darparu gweithdai cyfrifiadura sy’n ysbrydoli i dros 10,000 o bobl ifanc o 170 o ysgolion cyfun ar draws Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn ogystal â 50 o ysgolion cynradd trwy gydol De-orllewin Cymru.  Wrth i gyfrifiadura a llythrennedd digidol ddod yn rhan fwy o gwricwlwm ysgolion yng Nghymru, bydd y gweithgaredd newydd hwn yn darparu’r anogaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol mewn cyfrifiadureg i athrawon sy’n addysgu yn y meysydd hyn."