Adolygiad QAA yn canmol y Brifysgol ar wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Adolygiad Sefydliadol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) Addysg Uwch o Brifysgol Abertawe wedi canfod bod y Brifysgol wedi cwrdd รข safonau academaidd a disgwyliadau ansawdd y DU - ac mae'r Brifysgol hefyd wedi cael ei chanmol am wella cyfleoedd dysgu myfyrwyr.

Nododd yr Adolygiad bod:

  • safonau academaidd yn y Brifysgol yn cyflawni disgwyliadau'r DU ar gyfer safonau trothwy.
  • ansawdd y cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr yn y Brifysgol yn cwrdd â disgwyliadau’r DU.
  • gwella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr yn y Brifysgol yn cael eu canmol.
  • gwybodaeth am gyfleoedd dysgu a gynhyrchwyd gan y Brifysgol yn cwrdd â disgwyliadau'r DU.

Adrian NovisMeddai Adrian Novis (chwith), Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Academaidd y Brifysgol: “Rydym yn croesawu adroddiad y QAA, ac rydym yn falch iawn wrth gwrs, ond ddim yn synnu, gyda chanlyniadau ein Hadolygiad Sefydliadol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl staff a’r myfyrwyr a gymerodd ran ym mhroses y QAA o fesur ein hansawdd a safonau”.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd wrth i ni groesawu’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr, ac wrth i’r datblygiadau barhau ar Gampws y Bae, ein campws newydd sy’n werth £450 miliwn, fydd yn agor ym mis Medi 2015.

"Mae canlyniad yr adolygiad hwn hefyd yn cadarnhau'r hyn sydd eisoes wedi’i gydnabod mewn sawl arolwg annibynnol, canllaw a thabl cynghrair. Mae llawer ohonynt yn gofyn i’n myfyrwyr bleidleisio - gan gynnwys yr Arolwg  Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS). Graddiodd myfyrwyr Abertawe eu bodlonrwydd cyffredinol gyda'u Prifysgol yn 89% yn 2014, 4% yn uwch na'r bodlonrwydd cyfartalog yng Nghymru a chyfwerth â chyfartaledd holl sefydliadau'r DU. Cafodd y brifysgol ei rhestri ar Good University Guide 2015 y Times a’r Sunday Times, ac enillodd y brifysgol y wobr Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau WhatUni? yn gynharach eleni.